English

Ein hymrwymiad newid hinsawdd

Mae gofalu am greadigaeth Duw yn rhan bwysig o'n ffydd Gristnogol. Credwn fod gennym gyfrifoldeb i amddiffyn y byd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac i gefnogi'r rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd.

Cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad argyfwng hinsawdd yn 2021 ac ymrwymodd i weithio tuag at allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed carbon cyn gynted â phosibl a gwreiddio gofal am yr amgylchedd ym mhob agwedd ar fywyd eglwysig. Mae hyn yn cynnwys sut rydyn ni'n addoli, addysgu, rheoli ein hadeiladau a'n tir, ac yn gwneud penderfyniadau am ein hadnoddau.

Fframwaith carbon sero net yr Eglwys yng Nghymru

Mae'r Fframwaith hwn, sy'n ymateb i'r her Carbon Sero Net, yn nodi safbwynt yr Eglwys yng Nghymru wrth fynd i'r afael â bygythiad newid hinsawdd.

Dulliau ymarferol ac ysgrythurol

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu adborth yr hoffech eu rhannu ynglŷn ag ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru ar newid hinsawdd, defnyddiwch y ffurflen adborth hon i’w cyflwyno. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych ac rydym yn croesawu unrhyw awgrymiadau.