English

Am Padarn Sant

Athrofa Padarn Sant yw cymuned ddysgu Gristnogol yr Eglwys yng Nghymru, sy'n cyfarparu clerigwyr a gweinidogion lleyg i arwain eglwysi iach a bywiog heddiw ac yn y dyfodol.

Drwy addoli, dysgu a ffurfiant yn y Gymraeg a'r Saesneg, bydd Padarn Sant yn eich cefnogi wrth i chi archwilio galwedigaeth, astudiaethau academaidd neu baratoi ar gyfer y weinidogaeth a datblygu drwy gydol eich bywyd o wasanaeth.

Mae Padarn Sant hefyd yn croesawu dysgwyr o thu hwnt i'r Eglwys yng Nghymru i ffurfio cymuned Gristnogol amrywiol sy'n unedig mewn disgyblaeth, dysgu a gwasanaeth.

Mae popeth maen nhw'n ei wneud yn cael ei lunio gan weledigaeth o Ffurfiant mewn Cymuned ar gyfer Cenhadaeth:

  • Ffurfiant – tyfu mewn ffydd, cymeriad a disgyblaeth.
  • Cymuned – dysgu, addoli a gwasanaethu gyda’n gilydd.
  • Cenhadaeth – ymateb i alwad Duw a gwasanaethu bywyd yr Eglwys yn y byd heddiw.

Rydym yn eich gwahodd i archwilio'r cyfleoedd sydd ar gael a darganfod sut y gall Padarn Sant gefnogi eich taith o ffydd, dysgu a gweinidogaeth:

Mae Padarn Sant yn dechrau pennod newydd gyffrous yn ei wasanaeth i'r Eglwys yng Nghymru. Mae cenhadaeth yr Eglwys yn galw am weinidogion o ddyfnder ysbrydol, sylwedd diwinyddol, a chymeriad Cristnogol aeddfed sy'n ymroddedig yn angerddol i wneud Crist yn hysbys yn eu bywydau a'u gweinidogaethau. Rwy'n falch iawn o arwain tîm mor dalentog yn y gwaith hanfodol hwn fel Prifathro Padarn Sant.
Y Parchg Ganon Dr Jordan Hillebert, Pennaeth Athrofa Padarn Sant