Cronfa Twf yr Eglwys
Yn unol â'r cyflwyniad a wnaed yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol ar 15-16 Ebrill 2026, mae Grŵp Dyrannu Cronfa Twf yr Eglwysi wedi penderfynu oedi'r holl ystyriaeth o grantiau haen 1 a haen 2 tan hysbysiad pellach.
Y Corff Llywodraethol Ebril 2026 - Sesiwn 2Lansiwyd y Gronfa ym mis Hydref 2023. Mae £100 miliwn o gronfeydd cyfalaf wedi'u neilltuo i fuddsoddi mewn efengylu drwy'r gronfa hon dros y 10 mlynedd nesaf.
Cytunwyd ar y meini prawf ar gyfer gweinyddu'r Gronfa gan Grŵp Dyrannu Cronfa Twf yr Eglwys, sydd hefyd yn gyfrifol am asesu a chymeradwyo ceisiadau am grant.
Mae dwy haen o gyllid gan Gronfa Twf yr Eglwys:
- Mae'r gyntaf, haen 1, ar gyfer ceisiadau grant £10,000 neu lai, yn bennaf gan ardaloedd gweinidogaeth/cenhadaeth, ar gyfer gwaith sy'n arloesol yn lleol ac yn bosibl i’w ddyblygu yn genedlaethol. Rhowch sylw manwl i gymal g yn y ffurflen gais, sy'n esbonio na ellir defnyddio'r ffrwd Haen 1 i gefnogi costau staffio neu brosiectau adeiladu.
- Mae'r ail, haen 2, ar gyfer ceisiadau grant dros £10,000. Dim ond esgobaethau unigol, esgobaethau sy'n gweithio mewn partneriaeth neu'r chwe chadeirlan fel grŵp all wneud ceisiadau.
Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwestiwn neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â thîm Cronfa Twf yr Eglwys drwy ebostio churchgrowthfund@cinw.org.uk.