Cyhoeddiadau
Llithiadur Blwyddyn B - 2023 - 2024
Mae Llithiadur newydd yr Eglwys yng Nghymru ar gael i'w archebu ar-lein gan ein cyhoeddwr, Y Lolfa: Archebwch lyfrau a thystysgrifau ar-lein
neu lawrlwytho yma
Gofal ein Gwinllan crynodebau printiedig
Casgliad o ysgrifau yw’r gyfrol hon sy’n cloriannu cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lên, hanes a diwylliant Cymru.
Mae’r awduron yn ysgolheigion clodfawr yn eu meysydd penodol a seilir eu traethodau ar sgyrsiau a draddodwyd mewn cyfres boblogaidd o seminarau ar-lein a drefnwyd gan Athrofa Padarn Sant yn 2021 a 2022. Er mai canolbwynt y traethodau yw ffigyrau o’r Eglwys yng Nghymru, mae ystod yr astudiaeth yn eang a bydd y gyfrol o ddiddordeb i bawb sy’n trysori treftadaeth ddiwylliannol a ieithyddol y genedl.
Cliciwch ar y llun o'r llyfr:
£12.00 yn cynnwys postio a phacio (Cyhoeddwyd yn Gymraeg).
Mae’r llyfr hwn ar gael gan y cyhoeddwr: Y Lolfa.
Dilynwch eu cyfarwyddiadau archebu ar-lein. Bydd angen i chi dalu am y llyfr ar-lein a dylech ei dderbyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes
Mae'r Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes yn fersiwn wedi'i diweddaru o lyfr 2003, Y Calendr Newydd a'r Colectau.
Yr un yw'r litwrgi o fewn y llyfr ac eithrio ychydig fân wallau o fewn y testun, testunau ychwanegol sydd wedi'u hychwanegu ers cyhoeddi'r llyfr gwreiddiol a newidiadau a wnaed i ddyddiadau dathlu. Newid arall yw ei fod yn dangos y Colect Cyfoes yn unig. Mae Buchedd rhai o'r Seintiau wedi'i diweddaru i helpu i roi gwell dealltwriaeth o'r Sant.
Mae tystysgrifau’r Eglwys yng Nghymru bellach ar gael i'w prynu ar-lein
Gwasanaethau Angladd (2020)
Cysylltwch
Ritchie Craven
Rheolwr Cyhoeddiadau
publications@churchinwales.org.uk
029 2034 8257