Hafan Digwyddiadau bywyd Bedydd

Bedydd

Baptism of Megan and Jessica
Roedd hi’n wych cael dathlu bedydd fy merched Megan a Jessica. Mae mor braf bod yn rhan o deulu’r eglwys, yn rhannu brecwast â’n gilydd bob wythnos, ac addoli gyda phobl o bob oed. Mae Megan a Jessica yn teimlo’n gartrefol iawn yn yr eglwys y mae eu mam-gu wedi’i mynychu am y rhan fwyaf o’i hoes. Mae pobl a ddaeth i ddathlu’r achlysur arbennig gyda ni wedi ymuno â’r eglwys ers hynny ac mae’n hyfryd gweld y teulu’n tyfu.
Laura Bevan (Eglwys San Steffan, Port Tennant)

Eich bedydd

Mae’r Eglwys yng Nghymru’n credu bod plant yn rhodd werthfawr gan Dduw. Mae eich plentyn yn arbennig, a gobeithio y bydd ei fedydd yn nodi dechrau taith ryfeddol gyda’ch plentyn.

Gallwch gael eich bedyddio fel plentyn neu fel oedolyn. Cafodd Iesu ei hun ei fedyddio yn Afon Iorddonen, ac mae llawer o oedolion sy’n cael eu bedyddio yn gwneud hynny fel cyfle i’w ddilyn a datgan eu ffydd Gristnogol yn gyhoeddus.

Mae babanod a phlant ifanc iawn yn rhy ifanc i wneud yr ymrwymiad hwn drostyn nhw’u hunain, felly mae rhieni neu warcheidwaid, a’u rhieni bedydd, yn gwneud y datganiad hwnnw o ymrwymiad i’r ffydd Gristnogol drostyn nhw.

Gofynnir i rieni, gwarcheidwaid a rhieni bedydd sy’n dod â phlant i gael eu bedyddio ymrwymo i rannu eu taith arbennig gyda nhw. Bydd gofyn iddyn nhw ymrwymo i weddïo dros eu plentyn, a’i helpu i ddeall mwy am Iesu a’r ffydd Gristnogol. Byddant hefyd yn ymrwymo i’w helpu i lywio ei ffordd drwy fywyd yn erbyn cefndir o ffydd, gobaith a chariad, ac i’w helpu i ddod yn rhan o deulu ehangach yr eglwys.

Weithiau bydd bedydd yn cael ei gynnal yng nghyd-destun un o wasanaethau rheolaidd yr eglwys, ond mae rhai’n cael eu cynnal ar adeg wahanol gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yn unig yn bresennol. Yn aml mae’n bosibl cynnwys eich dewis chi o weddïau, darlleniadau a cherddoriaeth i wneud y gwasanaeth hyd yn oed yn fwy arbennig ac unigryw. Bydd eich ficer lleol yn hapus i drafod hyn i gyd gyda chi cyn y diwrnod arbennig.

Gall bod yn rhiant ddod â llawenydd anhraethadwy, ond fe all ddod â heriau unigryw hefyd. Mae llawer o’n heglwysi yn cynnal dosbarthiadau rhianta ble gallwch gael cefnogaeth, cymorth a chyngor, a rhannu straeon a phrofiadau gyda rhieni eraill.

Cynllunio’ch Bedydd

Dilynwch y dolenni hyn am ragor o gymorth a chyngor am eich Bedydd.