Efengylu
Cronfa Twf yr Eglwys – ceisiadau am grantiau
Cyflwyniad
Mae’n adeg allweddol yn ein hanes. Mae Cronfa Twf yr Eglwys yn un cyfle mewn oes i ddarparu adnoddau ar gyfer gwaith efengylu hyderus a chyson ledled y dalaith. Y nod yw gweld pobl yn dod i gyfarfyddiad â Iesu, yn dod i ffydd, cael eu bedyddio a dod yn ddisgyblion. Bydd y Gronfa’n galluogi’r eglwys i ddatblygu ffyrdd newydd a chyffrous o rannu’r newyddion da am Iesu Grist – neges sydd â’r grym i drawsnewid bywydau a chymunedau ledled Cymru.
Mae £100 miliwn o gronfeydd cyfalaf wrth gefn wedi’u neilltuo i fuddsoddi mewn gwaith efengylu drwy’r gronfa hon dros y 10 mlynedd nesaf. Mae Grŵp Dyrannu Cronfa Twf yr Eglwys wedi cytuno ar y meini prawf ar gyfer dosbarthu’r arian, a nhw hefyd fydd yn gyfrifol am asesu ceisiadau am grant. .
Ceisiadau
Mae yna ddwy haen o gyllid. Mae’r haen gyntaf, haen 1, ar gyfer ceisiadau am grant o hyd at £10,000, yn bennaf gan ardaloedd gweinidogaeth / cenhadaeth, ar gyfer gwaith sy’n arloesol yn lleol ac o bosibl yn waith y gellir ei efelychu’n genedlaethol.
Mae’r meini prawf a’r ffurflen gais i’w cael yma:
Mae ceisiadau Haen 2 ar gyfer grantiau o fwy na £10,000. Gall y ceisiadau gael eu cyflwyno gan esgobaethau unigol, esgobaethau sy’n gweithio mewn partneriaeth neu’r chwe Chadeirlan fel grŵp.
Mae’r meini prawf a’r ffurflen gais i’w cael yma:
Cyngor a chymorth
Y cam cyntaf mewn unrhyw gais yw sgwrs gyda’r Cyfarwyddwr Efengylu, Mandy Bayton. Anfonwch e-bost ati yma churchgrowthfund@cinw.org.uk
Amserlen
Lansiwyd y gronfa yng nghyfarfod Cymuned Ddysgu yr Esgobaethau ar 11 Hydref 2023.
Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ddydd Llun 20 Tachwedd i ystyried unrhyw geisiadau Haen 2 a fydd wedi dod i law erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun 6 Tachwedd am 5pm. Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau’n fuan ar gyfer cyfarfodydd Pwyllgor Cronfa Twf yr Eglwys yn 2024 a 2025. Bydd ceisiadau Haen 1 yn cael eu hystyried o 2024 ymlaen.
Cyf: 2337 - Cymraeg yn unig