Strwythur
Rhennir Yr Eglwys yng Nghymru yn esgobaethau, pob un ohonynt yn cynnwys archddiaconiaethau. Mae’r archddiaconiaethau’n cynnwys deoniaethau, a’r deoniaethau’n cynnwys bywoliaethau. Gall pob bywoliaeth gynnwys mwy nag un plwyf a gall fod mwy nag un eglwys ym mhob plwyf.
Esgobaethau
- Rhannwyd yr Eglwys yng Nghymru yn chwe esgobaeth.
Archddiaconiaethau
- Ardaloedd oddi mewn i esgobaethau yw archddiaconiaethau. Mae pob archddiaconiaeth yn cynnwys sawl deoniaeth.
Deoniaethau
- Mae pob bywoliaeth yn rhan o Ddeoniaeth, sef grŵp o nifer o fywoliaethau. Cydlynir gweithgareddau’r Ddeoniaeth gan Ddeon Bro (a elwir weithiau’n “Ddeon Gwlad”, ond nad yw’r un peth â Deon Cadeirlan), sydd hefyd a chyfrifoldeb dros unrhyw fywoliaethau gwag yn y Ddeoniaeth. Fel rheol, un o glerigion hŷn y Ddeoniaeth yw’r Deon Gwlad.
Bywoliaethau
- Gellir gosod clerig i ofalu am un plwyf, neu am nifer. Yr enw a roddir ar yr ardal y mae clerig yn gofalu amdani yw ‘bywoliaeth’. Gall bywoliaeth gynnwys un plwyf neu nifer o blwyfi. Cofiwch mai tarddiad eglwysig sydd i enwau bywoliaethau ac y gall na fyddant yn ddim byd tebyg i enw sifil yr ardal.
Plwyfi
- Mae yn yr Eglwys yng Nghymru dros 900 o blwyfi. Os ydych yn byw yng Nghymru, byddwch yn byw mewn plwyf. Mae pob plwyf yn ardal ddaearyddol benodol a gofelir amdano gan glerig a neilltuir iddo. Mae pob plwyf yn rhan o fywoliaeth, a gall fod ag un eglwys neu fwy.