English

Ynni Gwyrdd gyda Parish Buying

Gwasanaeth prynu cenedlaethol yw Parish Buying sy'n helpu eglwysi i gael prisiau gwell ar hanfodion bob dydd fel ynni, technoleg a datrysiadau.

Mae Parish Buying wedi datblygu cynnyrch ynni newydd, gwell o'r enw Ynni Plwyf neu Parish Energy. Mae ar gael i eglwysi sy'n chwilio am fargen ynni gystadleuol a gwyrdd.

Beth yw Parish Buying?

Ynni Plwyf

Eisiau lleddfu'r baich o ddod o hyd i fargen ynni gystadleuol a gwyrdd i'ch eglwys?

Mae cynnyrch newydd ‘Ynni Plwyf’ Parish Buying ar gael i eglwysi sy'n dymuno newid i ynni mwy gwyrdd neu sydd allan o gontract gyda'u cyflenwr ynni presennol ac eisiau trefniant contract haws. Mae'n defnyddio brocer ynni newydd, Mitie, a dau gyflenwr ynni newydd sy'n cynnig Tariffau Gwyrdd (Ecotricity ar gyfer trydan a Corona ar gyfer nwy) i ddarparu prisiau yn seiliedig ar brynu ynni cyfanwerthol.

Anogir eglwysi lleol i edrych ar yr hyn y gall y cynllun ei gynnig o'i gymharu â'u contractau ynni presennol ac i ystyried a ydyn nhw am newid.

Beth yw manteision Ynni Plwyf?

Gallai Ynni Plwyf eich helpu i:

  • Arbed arian - cael pris yn seiliedig ar brynu ynni cyfanwerthol.
  • Arbed amser – does dim angen ail-negodi wrth adnewyddu contract.
  • Cefnogaeth lawn dadwy - mae Ecotricity yn cynnig 100% o ynni gwyrdd pur o ffynonellau adnewyddadwy yn y DU, ac mae nwy gwyrdd hefyd ar gael gan Corona (am bris premiwm).
  • Cefnogaeth lawn - mae gan y brocer, Mitie, reolwr cyfrifon pwrpasol, e-bost cyswllt i’r cyfrifon a thîm gwasanaeth cwsmeriaid cefnogol i helpu'ch eglwys bob cam o'r ffordd.

Sut mae ymuno ag Ynni Plwyf?

I ymuno ag Ynni Plwyf, bydd angen i chi gofrestru gyda Parish Buying. Wrth gofrestru ar gyfer Parish Buying, dewiswch yr opsiwn ‘enter address manually', yn hytrach na chwilio yn ôl cod post neu dref. Does dim angen i aelodau'r Eglwys yng Nghymru nodi Rhif Adnabod Eglwys na Chyfeirnod Eglwys wrth gofrestru.

I ymuno ag Ynni Plwyf bydd angen manylion eich mesurydd trydan (MPAN), eich mesurydd nwy (MPRN) a manylion yr eglwys arnoch. Yna anfonir gwybodaeth am brisiau a Llythyr Awdurdodi (LOA) atoch i’w lofnodi a’i ddychwelyd.

Mae Prynu Plwyf yn derbyn cwsmeriaid newydd i'r cynllun ynni swmp yn rheolaidd a gallwch ymuno ar y dyddiad nesaf sydd ar gael neu gael cytundeb tymor byr i barhau tan y dyddiad ymuno nesaf sydd ar gael.

Ymunwch ag Ynni Plwyf

Gallwch gofrestru’n hwylus a hawdd am ddim ar gyfer Ynni Plwyf gyda Parish Buying. Ewch i wefan Parish Buying i ddechrau: