Y Comisiwn Athrawiaeth
Cylch Gorchwyl
- darparu sylwadau diwinyddol ar adroddiadau neu ddatganiadau a gynhyrchir yn yr Eglwys yng Nghymru a’r Cymundeb Anglicanaidd, a chan gyrff eciwmenaidd neu’n dilyn trafodaethau ag eglwysi neu grefyddau eraill;
- cynhyrchu papurau trafod.
Gyda chaniatâd Mainc yr Esgobion:
- ymgymryd â gwaith diwinyddol a fydd yn ysgogi a llywio myfyrdod ym mywyd y Dalaith;
- cynghori Mainc yr Esgobion ar faterion dadleuol y dydd.