Hafan Digwyddiadau bywyd Angladdau

Angladdau

Funeral group of mourners
Ar ôl colli fy ngŵr i ganser yn drasig o ifanc yn 59 oed, dwi’n eithriadol o ddiolchgar am y cymorth ges i gan ein ficer lleol. Trefnu angladd oedd y peth diwetha roedden ni am ei drafod, ond eglurodd yn dyner y pethau roedd angen i ni eu hystyried, gan ein cefnogi ni’n emosiynol ac yn ymarferol. Dwi ddim yn gwybod sut y bydden ni wedi ymdopi â chynllunio’r gwasanaeth, mynd i’r angladd a chladdu llwch Mike heb ei gymorth a’i garedigrwydd. Dwi’n cael cysur wrth fynd i’r eglwys nawr ac mae wedi dod yn hafan i fi. Fe gefais lawer o ofal bugeiliol hefyd, ac yn fy oriau tywyllaf, dysgodd y ficer fi ‘nad yw cael ffydd yn atal pethau gwael rhag digwydd ond bod Duw yn cerdded gyda chi pan maen nhw’n digwydd’.
Amanda Fenton (Y Ddraenen, Caerdydd)

Yr angladd

Mae trefnu angladd yn gallu bod yn anodd a heriol iawn, yn enwedig pan fyddwch chi’n ffarwelio â rhywun sydd wedi bod yn rhan fawr o’ch bywyd. Mae’r Eglwys yng Nghymru yma i’ch helpu a’ch cefnogi chi, nid yn unig wrth gynllunio’r gwasanaeth angladd ei hun, ond cyhyd ag y byddwch chi ein hangen ni wedyn.

Mae Cristnogion yn credu bod pob unigolyn wedi’i greu’n unigryw ar lun a delw Duw, ac rydym yn deall bod angen i angladd adlewyrchu popeth a oedd yn arbennig am y person roeddech chi’n ei adnabod a’i garu, waeth a yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal mewn eglwys, amlosgfa neu fynwent.

Er gwaethaf y teimladau cryf o golled a galar rydym yn eu profi pan fydd un o’n hanwyliaid yn marw, bydd yr Eglwys yng Nghymru bob amser yn adlewyrchu’r gobaith a’r cysur mawr sy’n sail i’r ffydd Gristnogol. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ni fod yna fwy na’r bywyd hwn yn unig, a thrwy Efengyl Iesu Grist, mae Duw yn addo lle i ni heb farwolaeth, dagrau na thristwch mwyach.

Mae pob person yn unigryw a dylai pob angladd fod yn unigryw hefyd. Bydd gweinidog yr eglwys, a elwir yn ficer yn aml, yn eich annog i siarad am y person rydych am ddiolch amdano a’r bywyd rydych am ei ddathlu. Gall eich helpu chi i gynllunio’r gwasanaeth, a thrafod beth sy’n bosibl gyda chi.

Mae yna sawl ffordd y gallwch chi wneud yr angladd yn wirioneddol bersonol: yr hyn sy’n cael ei ddweud am eich anwylyd, beth hoffech chi i bobl ei wisgo, y gerddoriaeth sy’n cael ei chwarae, y darlleniadau a ddewisir, y gweddïau a offrymir, neu efallai’r llun a ddewisir o’r unigolyn i’w roi yn y blaen.

Cynllunio angladd

Bydd y dolenni canlynol yn rhoi rhywfaint o wybodaeth a chyngor defnyddiol am beth i’w wneud pan fo rhywun yn marw, a sut i ddechrau meddwl am drefnu angladd sy’n edrych ac yn teimlo’n iawn i chi.