Hafan Digwyddiadau bywyd Conffyrmasiwn

Conffyrmasiwn

Young man praying

Eich Conffyrmasiwn

Yn yr Eglwys Fore, roedd y rhai a oedd yn ymuno â’r Ffydd Gristnogol yn cael eu bedyddio a’u conffyrmio yn yr un gwasanaeth. Ar ôl cyfnod, gwahanodd yr Eglwys yn y Gorllewin fedydd a chonffyrmasiwn ac eithrio i oedolion. Fel rheol, mae babanod yn cael eu bedyddio a bydd yr addewidion yn cael eu gwneud ar eu rhan gan eu rhieni a’u rhieni bedydd sy’n addo y byddant yn eu haddysgu yn y ffydd Gristnogol a phan fyddant yn ddigon hen, yn eu hannog i wneud ymrwymiad personol a chael eu conffyrmio gan yr esgob.

Mewn gwasanaeth Conffyrmasiwn heddiw, mae yna ymgeiswyr o bob oed yn aml a bydd rhai wedi cael eu bedyddio eisoes tra y bydd eraill yn cael eu bedyddio a’u conffyrmio yn yr un gwasanaeth. Mae nifer gynyddol o oedolion yn dod i gael eu conffyrmio ac nid oes unrhyw derfyn o ran oed.

Mae’r Gwasanaeth Conffyrmasiwn yn dilyn cyfnod o baratoi. Gellir paratoi trwy fynychu grŵp anffurfiol gydag eraill, lle mae offeiriad neu unigolyn lleyg yn eich cyflwyno i agweddau amrywiol ar y ffydd Gristnogol, neu gallai’ch eglwys(i) lleol gynnal cwrs Alpha neu rywbeth tebyg i fwy o bobl. Dylai paratoi fod yn hwyl ac yn gyffrous a bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau anodd a chymryd rhan mewn trafodaethau.

Conffyrmasiwn

Dilynwch y dolenni hyn am ragor o help a chyngor am eich Conffyrmasiwn.