Gweithio gyda ni

Mae Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol, ac rydym yn annog ceisiadau gan bawb. Rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd amrywiol, waeth a ydynt yn arddel y ffydd Gristnogol, ffydd wahanol neu heb ffydd o gwbl.
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen i ymgeiswyr arddel y ffydd Gristnogol oherwydd gofyniad galwedigaethol diffuant. Os yw hyn yn berthnasol, bydd yr hysbyseb swydd yn ei nodi’n glir.
Rydym yn cynnig pecyn cyflog cystadleuol, wythnos waith 35 awr, cyfleoedd i weithio’n hyblyg, 25 diwrnod o wyliau sy’n codi i 30 diwrnod y flwyddyn, a chynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig deniadol.
Lleolir Swyddfa’r Dalaith yn Sgwâr Callaghan yng nghanol Caerdydd, yn agos i’r gorsafoedd rheilffordd, y canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus a chanolfan siopa Dewi Sant. Lleolir y swyddfa mewn adeilad modern, hygyrch ar ffurf cynllun agored sy’n cynnwys cegin a man gorffwys i staff.
Lawrlwythwch: Hysbysiad preifatrwydd ymgeisydd am swydd (Word)
Swyddi gwag presennol
Athrofa Padarn Sant
Does dim swyddi gwag ar hyn o bryd
Am restr lawn o swyddi gwag yn yr Esgobaeth ewch i'w tudalennau Swyddi: