Gall eglwysi, eglwysi cadeiriol a neuaddau eglwys enwebedig ledled Cymru gael mynediad at gyllid newydd i helpu i leihau allyriadau carbon a symud i ffwrdd o'r defnydd o danwydd ffosil. Mae prosiect newydd cyffrous yr Eglwys yng Nghymru, Tuag at Sero Net, yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â’r Benefact Trust.
Nod y prosiect tair blynedd cyllid Sero Net yw helpu eglwysi, eglwysi cadeiriol a neuaddau eglwys yr Eglwys yng Nghymru i leihau yn sylweddol eu dibyniaeth ar danwydd ffosil, gan arddangos atebion ymarferol y gellir eu hailadrodd ledled y Dalaith yr un pryd. Rhaid i unrhyw ymgeisydd posibl gael ei enwebu gan ei esgobaeth.
Bydd dwy ffrwd ariannu ar gael: i) Grantiau datblygu o hyd at £5,000 i gefnogi eglwysi sy'n archwilio atebion carbon isel, gan gynnwys astudiaethau dichonoldeb, mesurau arbed ynni a threialon technolegau newydd; ii) Grantiau arddangos o hyd at £45,000 i helpu i ariannu prosiectau cyfalaf mwy, megis pympiau gwres, paneli solar, storio mewn batris a gwelliannau inswleiddio.
Gwneir ceisiadau trwy broses enwebu esgobaethau, gan sicrhau bod prosiectau'n barod i fwrw ymlaen ac yn gallu cyflawni gostyngiadau carbon mesuradwy. Disgwylir i dderbynwyr grant llwyddiannus fonitro'r defnydd o ynni, cofnodi canlyniadau prosiect a darparu tystiolaeth o fanteision amgylcheddol. Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, bydd rhwydwaith cynyddol o astudiaethau achos ac enghreifftiau ymarferol ar gyfer eglwysi ledled Cymru yn datblygu.
Mae'r rhaglen yn rhan o ymrwymiad ehangach yr Eglwys yng Nghymru i gyflawni Sero Net erbyn 2030. Trwy gefnogi buddsoddiad mewn technolegau glanach a gwell effeithlonrwydd ynni, nod y prosiect yw lleihau allyriadau a sicrhau bod adeiladau eglwysig yn parhau i fod yn gynaliadwy, yn groesawgar ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Dywedodd Dr Julia Edwards, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru:
Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â’r Benefact Trust gyda'r rhaglen sero-net hon. Mae'r cydweithrediad yn galluogi eglwysi i weithredu eu cynlluniau ar gyfer technolegau carbon isel, a thrwy wneud hynny, lleihau yn sylweddol eu heffaith mewn perthynas â newid hinsawdd a chael golwg ehangach ar yr angen brys i ofalu am greadigaeth Duw heddiw ac ar gyfer y dyfodol.



