English

Lansiwyd ail ap digidol yr Eglwys yng Nghymru, yr Ap Gweddi Ddyddiol, dros y penwythnos - cyfraniad pwysig arall tuag at wneud adnoddau addoli'r Eglwys yng Nghymru yn fwy hygyrch, gan helpu pobl i allu gweddïo bob dydd ble bynnag a phryd bynnag y bydd angen iddynt wneud hynny.

Mae'r ap yn cyfuno dau o gyhoeddiadau mwyaf poblogaidd yr Eglwys yng Nghymru, Gweddi Ddyddiol (2009) a Beunydd Gyda Duw (2024), ac yn sicrhau bod yr adnoddau hyn ar gael mewn fformat digidol cyfleus, sy’n dilyn model llwyddiannus yr Ap Llithiadur Digidol.

Bydd yr Ap Gweddi Ddyddiol yn cael ei ryddhau mewn dau gam. Bydd y cam cyntaf, Defosiwn Personol, yn galluogi defnyddwyr i weld y Boreol Weddi, Gweddi'r Dydd, yr Hwyrol Weddi a’r Gweddi'r Nos ar eu ffôn, eu gliniadur neu ar eu dyfeisiau digidol eraill. Mae pob gwasanaeth yn cael ei gyflwyno mewn fformat clir, hawdd ei ddefnyddio, sy'n cynnwys cyflwyniadau, darlleniadau o'r Beibl, bendithion, cantiglau, gweddïau, credoau a chasgliadau. Mae'r ap ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac mae'n rhad ac am ddim i'w ddefnyddio.

Bydd y Llithiadur Digidol a'r Ap Gweddi Ddyddiol newydd ar gael yn yr un lleoliad ar-lein. Bydd y fersiwn hŷn o'r Llithiadur Digidol yn cael ei dileu maes o law.

Ar y gweill: Creu Taflenni Gwasanaeth

Bydd ail gam yr ap yn cyflwyno’r gallu i Greu Taflenni Gwasanaeth. Bydd modd i ddefnyddwyr lunio gwasanaeth a dewis yr elfennau angenrheidiol trwy ddefnyddio botymau syml, hawdd eu deall a’u defnyddio. Ar ôl gwneud y dewisiadau, bydd modd lawrlwytho testun y gwasanaeth yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith.

Nid yw dyddiad lansio’r ail gam hwn wedi'i gyhoeddi eto, ond disgwylir y bydd ar gael yn fuan.

Dyma ychydig o adborth gan ein defnyddwyr!:

“Mae hwn yn gam enfawr ymlaen.”

“Rwyf wedi bod yn defnyddio hwn yn ystod y cyfnod prawf fel ymgeisydd am urddau, ac mae'n ardderchog!”

“Mae wedi cael ei ddisgwyl ers amser maith, a bydd yn rhyfeddol i'r clerigwyr a'n cynulleidfaoedd.”

“Mae [ap y Weddi Ddyddiol] yn llwyddiant ysgubol. Rwyf wedi ei osod ar fy ffôn, a dyma fydd yr adnodd y byddaf i, a’r Tîm Ardal Weinidogaeth ehangach, yn troi ato’n rheolaidd. Yn y gorffennol, rydym wedi defnyddio ap ‘Common Worship Daily Prayer’, sy’n gosod safon uchel iawn o ran ansawdd. Fodd bynnag, mae ein hap newydd yr un mor dda, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn gynhwysfawr; mae’n cynnig mwy o ddewisiadau, gan gofleidio symlrwydd yn ogystal â’r fformat mwy safonol.”

Ap Gweddi Ddyddiol a'r Llithiadur Digidol