English

Mae straeon teuluoedd Iddewig a gyfrannodd at siopau, busnesau a bywyd cymunedol Bangor yn cael eu rhannu mewn arddangosfa yng Nghadeirlan Bangor. Bydd yr arddangosfa ar agor tan ddydd Sul 22 Tachwedd.

O’r enwau cyfarwydd Wartski a Pollecoffs i hanes synagog y ddinas, mae’r arddangosfa’n defnyddio ffotograffau, adroddiadau papur newydd, gwaith celf ac atgofion personol i archwilio rhan o orffennol Bangor sy’n aml yn cael ei hanwybyddu.

Gall ymwelwyr hefyd ddysgu am gysylltiadau Iddewig â’r Gadeirlan, gan gynnwys straeon am ei ffenestri gwydr lliw a’r berthynas rhwng teulu Wartski a chyn Ddeon.

Mae’r arddangosfa’n gosod hanes Bangor yng nghyd-destun ehangach bywyd Iddewig ar draws Gogledd-orllewin Cymru, gan gynnwys ymchwil o Abergele, Ynys Môn, Caernarfon a Llandudno.

Mae disgynyddion teuluoedd lleol wedi cyfrannu ffotograffau a rhannu eu hatgofion mewn cyfweliadau hanes llafar. Ymhlith y straeon mae hanes athrawes o Abergele a ddihangodd rhag erledigaeth y Natsïaid. Ar ôl i ymchwilwyr gysylltu â nhw drwy Facebook, bu cyn-ddisgyblion yn helpu i roi’r darnau o’i stori at ei gilydd.

Yr Athro Nathan Abrams, o Brifysgol Bangor, a Laura Henley Harrison sydd wedi gwneud yr ymchwil ar gyfer yr arddangosfa, a Rob Jones, o Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru, sydd wedi’i dylunio.

Gyda chymorth grant Cydlyniant Cymunedol gan Gyngor Sir Ynys Môn, nod y prosiect yw cynyddu dealltwriaeth o gymunedau Iddewig a’u cyfraniad i Ogledd Cymru, gan gadw atgofion cymuned y mae ei niferoedd wedi gostwng yn sylweddol.

Dywedodd Laura Henley Harrison, o Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru: “Nid maint cymuned Iddewig Bangor sy’n ei gwneud yn bwysig, ond ei chyfraniad at hanes y ddinas. Roedd teuluoedd, myfyrwyr a phobl broffesiynol Iddewig yn chwarae rhan weithgar mewn bywyd lleol, ac mae eu profiadau’n rhoi golwg werthfawr ar amrywiaeth Cymru fodern.

“Ein nod bob amser yw adrodd hanes y cymunedau Iddewig yn eu geiriau eu hunain, gan gadw eu hatgofion ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd Esgob Bangor, Manon Ceridwen James: “Mae cynnal yr arddangosfa hon yng Nghadeirlan Bangor yn gyfle i ddysgu mwy am ein cymdogion Iddewig a’u cyfraniad at fywyd ein dinas. Mae perthynas dda rhwng cymunedau ffydd yn dechrau drwy wrando a dangos diddordeb ym mhrofiadau ein gilydd. Rwy’n gobeithio y bydd yr arddangosfa’n annog pobl i ddysgu am y rhan hon o’r hanes rydym yn ei rannu, ac yn ein helpu i feithrin perthynas agosach heddiw.”

Mae rhagor o straeon ar gael drwy Lwybr Wartski a Llwybr Treftadaeth Abergele gan Gymdeithas Hanes Iddewig De Cymru.

Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: