English

Mae busnesau, darparwyr llety a chynulleidfaoedd eglwysig yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar Ffordd y Pererinion Gogledd Cymru, sef y llwybr cerdded 136 milltir o Abaty Dinas Basing ger Treffynnon i Ynys Enlli, a elwir yn aml yn “Camino Cymru”.

Bydd yr ymgynghoriad, sy’n dechrau ddydd Gwener 6 Tachwedd, yn archwilio sut y gall busnesau a chymunedau lleol elwa drwy gefnogi pererinion yn well gyda llety, trafnidiaeth a mynediad at fwyd a dŵr ar hyd y llwybr. Yn ogystal, gofynnir i bobl sut y gellir hyrwyddo treftadaeth, diwylliant ac iaith leol drwy ddatblygu’r llwybr. Bydd cyfleoedd hefyd i bobl ddod yn Llysgenhadon Ffordd y Pererinion ar gyfer y llwybr.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o brosiect dwy flynedd a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i archwilio’r potensial ar gyfer cynyddu nifer y bobl sy’n cerdded y llwybr pellter hir hwn.

Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Llanelwy: