Bydd y caplan ysbyty, y Parchedig Wynne Roberts, sy’n llawer mwy adnabyddus fel yr Elvis Cymraeg, yn camu i’r llwyfan yn y Groeslon ddydd Gwener, 27 Tachwedd, er mwyn helpu eglwysi lleol i osgoi Nadolig anniddig o achos yr oerfel.
Bydd yr elw o’r noson Elvis’ Winter Wonderland yn cyfrannu at gostau gwresogi a chynnal a chadw chwe eglwys Ardal Weinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai, ger Caernarfon. Yn ôl yr Ardal Weinidogaeth, mae’r cynnydd mewn biliau yn ei gwneud hi’n fwyfwy anodd gwresogi’r eglwysi a chadw ar ben y gwaith atgyweirio.
Mae pedair o’r eglwysi wedi cynnal gwasanaethau bob dydd Sul am y pum mlynedd diwethaf. O 3 Ionawr hyd at Sul y Pasg, bydd y cynulleidfaoedd yn dod ynghyd ar gyfer un gwasanaeth Sulol bob wythnos, gyda’r eglwysi yn cymryd eu tro i’w gynnal. Yn ôl yr Ardal Weinidogaeth, bydd y trefniant newydd yn helpu i leihau costau gwresogi ac yn rhoi mwy o gyfle i’r cynulleidfaoedd addoli gyda’i gilydd.
Meddai’r Parchedig Nia Catrin Williams, Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth, “Ein dymuniad yw sicrhau bod pawb sy’n dod i ddathlu’r Nadolig gyda ni yn cael eglwys gynnes a chroeso cynnes. Ym mis Ionawr, byddwn yn dechrau cymryd ein tro i gynnal yr oedfaon ar y Sul. Bydd hyn yn ein helpu i wario llai ar wresogi, ac yn rhoi cyfle i ni ddod i adnabod pobl o’r eglwysi eraill. I rai ohonom ni, mae cael eistedd i lawr a chael sgwrs ar y Sul yr un mor bwysig â’r oedfa ei hun.”
Yn ogystal â pherfformio fel Elvis, mae Wynne yn rheolwr caplaniaeth ysbytai Gogledd Cymru, gan gynnwys Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd. Dechreuodd berfformio fel Elvis pan oedd ei fam yn byw mewn cartref nyrsio. Aeth ymlaen i ddefnyddio ei act deyrnged i Elvis i godi arian at achosion da, ac yn 2019 dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig iddo am ei waith elusennol.
Meddai’r Parchedig Wynne, “Mae’r eglwysi hyn yn rhan bwysig o’u cymunedau, felly os gall Elvis helpu i gadw’r gwres ymlaen y gaeaf hwn, rwy’n fwy na hapus i wneud fy rhan.”
Bydd Elvis’ Winter Wonderland yn dechrau am 7yh ddydd Gwener, 27 Tachwedd, yn Neuadd Bentref y Groeslon, LL54 7DG.
Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



