English

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ffurfiol i'r pryderon a godwyd gan Archesgob Cymru, y Parchedig Andrew John, ynghylch mater ansawdd afonydd yng Nghymru.

Ym mis Tachwedd, cynhaliodd yr Archesgob uwchgynhadledd genedlaethol, Adfer Afonydd Cymru, a drefnwyd gan yr Eglwys yng Nghymru i dynnu sylw at y mater. Daeth mwy na 90 o bobl o bob cwr o'r DU at ei gilydd, gan gynnwys gwyddonwyr, ffermwyr, amgylcheddwyr a chynrychiolwyr y diwydiant dŵr, i drafod yr heriau sy'n wynebu cyrsiau dŵr yng Nghymru ac i archwilio ffyrdd o wella ansawdd dŵr.

Roedd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, hefyd yn bresennol ac yn annerch y cynulliad, gan nodi rhai o'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Yn awr, mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, wedi ysgrifennu at yr Archesgob i esbonio'r mesurau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau.

Mae'r mesurau'n cynnwys:

  • Lleihau dŵr ffo o amaethyddiaeth ddwys
  • Cryfhau gorfodi rheoliadau amgylcheddol
  • Gweithredu atebion sy'n seiliedig ar natur
  • Mabwysiadu dull rheoli dalgylchoedd
  • Sefydlu platfform rhannu data amgylcheddol cenedlaethol

Darllenwch y llythyr llawn gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies (PDF).

Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ddiolchgar i dderbyn ymateb mor adeiladol i'r mater dybryd hwn ac yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru, asiantaethau statudol, partneriaid elusennol a rhanddeiliaid eraill i helpu i adfer afonydd Cymru i iechyd llawn.

Darganfyddwch fwy am Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru