Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru
Mae ein hafonydd yn marw.
Mae cwmnïau dŵr yn anghyfreithlon yn pwmpio carthion amrwd iddynt. A hyd yn oed wrth i rannau o’n cymunedau amaethyddol fod ar gyflog isel a heb eu gwerthfawrogi yn iawn, mae arferion ffermio dwys, a hyrwyddir gan system cynhyrchu bwyd anghynaliadwy, yn gwenwyno afonydd gyda gormod o wrteithiau a gwastraff anifeiliaid.
Cawn ein gorfodi i godi llais ar faterion lle credwn fod rhywbeth o’i le.
Fis Tachwedd eleni, bydd y Archesgob yn cynnal yr Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru. Bydd y digwyddiad deuddydd yn darparu fforwm ar gyfer trafodaeth a bydd yn ceisio cytuno ar atebion ar gyfer newid y ffordd y mae ein dyfrffyrdd yn cael eu rheoli yng Nghymru.
Mae'r sesiynau'n cynnwys:
- Atebion sy'n seiliedig ar natur.
- Pridd ac amaethyddiaeth.
- Cyflwyno'r wyddoniaeth.
- Ansawdd dŵr.
- Bwyd a dŵr.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal 7-8 Tachwedd. Darllenwch y datganiad i'r wasg yma
Uwchgynhadledd Adfer Afonydd Cymru
Gweld y rhaglen