Mae’r Gwir Barchedig Ddr Manon Ceridwen James wedi’i sefydlu’n 82ain Esgob Bangor, a’r fenyw gyntaf i ddal y swydd.
Ymgasglodd pobl o bob rhan o’r esgobaeth, ynghyd â theulu a ffrindiau’r Esgob Manon, yng Nghadeirlan Bangor ar gyfer y gwasanaeth ddydd Sadwrn 19 Medi. Roedd ei sefydlu yng Nghadeirlan Bangor yn nodi dechrau ffurfiol ei gweinidogaeth gyhoeddus yn yr esgobaeth.
Daeth yr Esgob Manon i mewn drwy Ddrws y Gorllewin ar ôl curo arno deirgwaith â bagl yr esgobaeth. Cafodd ei chroesawu i’r Gadeirlan gan Bethan Evans, a oedd yn cynrychioli pobl ifanc ledled yr esgobaeth, a’i gosod yng nghadair yr esgob.
Roedd y gwasanaeth yn cynnwys emyn newydd gan y bardd Cymraeg Siôn Aled, cerddoriaeth o Bontifical Bangor canoloesol a chanu gan ddisgyblion Ysgol Llandwrog.
Yn ei phregeth, dywedodd yr Esgob Manon fod Cristnogion yn perthyn i Grist ac i’w gilydd. Dywedodd nad “bos ond cyswllt” yw esgob, a galwodd ar bobl ledled yr esgobaeth i wrando, gweddïo a chydweithio wrth iddynt wynebu penderfyniadau anodd ynghylch gweinidogaeth, adeiladau a blaenoriaethau.
“Rydyn ni’n perthyn i Gristnogion ledled y byd ac ar hyd y canrifoedd. I mi, dyna yw hanfod gweinidogaeth esgob. Nid bod yn ‘fos’, ond bod yn gyswllt. Cysylltu eglwysi â’i gilydd. Cysylltu’r Eglwys heddiw ag eglwys y gorffennol ac eglwys y dyfodol.”
Siaradodd yn agored am y penderfyniadau anodd sy’n wynebu’r esgobaeth, gan gynnwys penderfyniadau am adeiladau, gweinidogaeth a blaenoriaethau. Dywedodd y byddai angen i bobl wrando ar Dduw, ymddiried yn ei gilydd a chydweithio.
“Dim ond os penderfynwn roi ein popeth i wasanaethu Duw lle’r ydym ni y bydd ein heglwys, ein hardal weinidogaeth a’n hesgobaeth yn ffynnu,” meddai.
Gwahoddodd yr Esgob Manon bobl i ymuno â hi mewn gweddi bob bore am 8.30am, ble bynnag y maent. Bryd hynny, bydd hi’n gweddïo am “ddoethineb a dirnadaeth” yng nghapel Tŷ’r Esgob.
Daeth â’i phregeth i ben drwy ddweud: “Cariad yw ein DNA. Gwasanaethu yw ein galwad. Nid mewn unrhyw un eglwys, offeiriad na hyd yn oed esgob y mae ein nerth, ond yng Nghrist sy’n ein clymu wrth ein gilydd. Rydyn ni’n perthyn i’n gilydd. Rydyn ni’n perthyn i Grist. A gyda’n gilydd, yng Nghrist, rydyn ni’n gryfach.”
Pregethodd yr Esgob Manon yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae bod yn Eglwys ddwyieithog yn bwysig i’r esgob newydd, sydd wedi siarad am yr her o roi lle priodol i’r Gymraeg wrth wasanaethu cymunedau yn y ddwy iaith.
Wrth siarad yn ddiweddar ar BBC Radio Cymru, dywedodd fod mentoriaid, gan gynnwys Cynthia a Saunders Davies, wedi ei helpu i ddeall sut i fod yn “eglwyswraig ac yn Gymraes”.
Meddai, "Mewn eglwys sydd yn ceisio gwasanaethu pob cymuned yn y ddwy iaith mae'n anodd weithiau blaenoriaethu'r Gymraeg ond diolch i bobl fel Cynthia a Saunders Davies rwyf wedi bod yn ffodus iawn o gael mentoriaid sy wedi fy helpu i wybod sut i fod yn eglwyswraig ac yn Gymraes."
Mae’r Esgob Manon hefyd yn un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam. Ar ôl y gwasanaeth, rhoddodd yr esgobaeth grys pêl-droed Wrecsam iddi, gyda “Esgob” a’r rhif 1 ar y cefn.
Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



