English

Bydd pobl ifanc o bob rhan o Esgobaeth Bangor yn helpu i groesawu’r Esgob Manon Ceridwen James pan gaiff ei sefydlu’n Esgob Bangor yng Nghadeirlan Bangor ddydd Sadwrn 19 Medi.

Yn eu plith bydd Bethan Evans, 15 oed, o Lanidloes, a fydd yn cyfarch yr esgob newydd wrth ddrws gorllewinol y gadeirlan.

Mae Bethan yn aelod o Glwb Ieuenctid Spoons yn Eglwys Sant Idloes, Llanidloes. Mae’r grŵp yn cael ei arwain gan y Gweinidog Ieuenctid Arloesi, Debbie Peck, ac yn gwasanaethu pobl ifanc yn Ardal Weinidogaeth Bro Arwystli, ym mhen deheuol yr esgobaeth.

Ar ddechrau’r gwasanaeth, bydd yr Esgob Manon yn taro ar y drws gorllewinol dair gwaith â’i bagl. Pan fydd y drysau’n agor, bydd Bethan yn ei chroesawu ar ran pobl ifanc yr esgobaeth.

Fel rhan o litwrgi’r sefydlu, bydd yn gofyn i’r Esgob Manon pam ei bod wedi dod i’r gadeirlan a sut y daw ymhlith y bobl y mae wedi cael ei galw i’w gwasanaethu.

Dywedodd Debbie Peck fod Bethan yn ddewis amlwg ar gyfer y rôl. “Mae Bethan yn ferch ifanc hyderus a charedig a fydd yn cynrychioli pobl ifanc Llanidloes, ym mhen deheuol iawn yr esgobaeth, yn wych. Mae hi’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn berson dawnus, parod ei chymwynas a deallus.”

Mae Bethan hefyd yn chwarae pêl-droed i dîm dan 16 oed Y Seintiau Newydd a bydd yn colli gêm er mwyn cymryd rhan yn y gwasanaeth.

Wrth siarad cyn y sefydlu, dywedodd Bethan, “Rwy’n teimlo’n hynod gyffrous ac wedi fy mendithio o gael y cyfle hwn. Rwy’n ddiolchgar bod y rôl hon wedi cael ei chynnig i mi. Bydd cynrychioli pobl ifanc Cymru yn anrhydedd ac yn fraint.”

Bydd disgyblion Blynyddoedd 2 i 6 Ysgol Llandwrog hefyd yn cymryd rhan. Byddant yn canu Molwn Ef am Gymru (Let Us Praise Him for Wales), sy’n dathlu iaith, diwylliant, hanes a thirwedd Cymru.

Mae Ysgol Llandwrog yn ysgol fach wirfoddol a reolir gan yr Eglwys yng Nghymru, gyda 45 o ddisgyblion. Aeth ei phrifathrawes, Carys Thomas, i’r ysgol gyda’r Esgob Manon a bydd yno i weld ei disgyblion yn canu yn y gwasanaeth sefydlu.

Mae 45 o ddisgyblion yn yr ysgol wirfoddol a reolir gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae cerddoriaeth yn rhan bwysig o fywyd yr ysgol, gyda chyfleoedd i ddysgu offerynnau chwythbrennau, pres, piano ac iwcalili, yn ogystal â chanu’n rheolaidd.

Mae gan yr ysgol gysylltiadau agos â’r eglwys leol a’r Parchedig Nia C Williams. Mae’r disgyblion hefyd yn cael ymweliadau rheolaidd gan dîm Agor y Llyfr o Ardal Weinidogaeth Bro Beuno Uwch Gwyrfai.

Bydd Leusa Grug Roberts, sy’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Llandwrog, hefyd yn darllen y weddi dros sefydliadau ac ysgolion yn ystod y gwasanaeth. Mae Leusa bellach ym Mlwyddyn 11 yn Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon.

Mae’n gwirfoddoli gyda’r Urdd ac yn aelod o Fforwm Ieuenctid Gwasanaeth Cerdd William Mathias. Mae’n chwarae’r piano, y delyn a’r corn tenor ac yn perfformio gyda nifer o gorau a bandiau, gan gynnwys Côr Cofis a Chôr y Ddoc. Mae hi hefyd yn chwaraewraig hoci frwd.

Dywedodd Leusa: "Dechreuodd fy nghariad at gerddoriaeth yn Ysgol Llandwrog, ac rwy'n teimlo'n falch iawn o gael fy ngwahodd i ddarllen gweddi yn y gwasanaeth hwn. Rwy'n trysori'r blynyddoedd fel disgybl yn fy ysgol gynradd, a roddodd sylfaen mor dda i mi yn y gwerthoedd Cristnogol rwy'n eu coleddu ac yn eu harfer heddiw."

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: