Mae’r bedwaredd gyfrol, a’r olaf, mewn cyfres sy’n archwilio cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i lenyddiaeth, hanes a diwylliant newydd ei chyhoeddi gan wasg Y Lolfa.
Ers 2021, mae sawl cyfres o seminarau ar-lein wedi archwilio cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’n llenyddiaeth, ein hanes a’n diwylliant fel Cymry Cymraeg. Mae’r gyfrol hon, Gofal ein Gwinllan 4 a olygwyd gan A. Cynfael Lake a D. Densil Morgan yn cynnwys traethodau penigamp sy’n cyd-fynd â’r seminarau.
Meddai’r Parch. Ganon Ddr Ainsley Griffiths, Cyfarwyddwr Ffydd, Trefn ac Undod gyda’r Eglwys yng Nghymru ac un o sylfaenwyr y gyfres o seminarau:
“Braf yw cael cyhoeddi’r bedwaredd gyfrol yma. Mae’r seminarau wedi bod yn brosiect sylweddol a dadlennol sydd wedi dwyn i’r golau nifer o gymeriadau a chyfraniadau a fu’n anhysbys i’r mwyafrif. Mae’r pedair cyfrol yn sicrhau cofnod ysgrifenedig parhaol o’r hyn a gyflwynwyd, gyda’r gobaith y bydd yr ysgolheictod clodwiw yn ysgogi mwy o ddiddordeb yn y maes hwn ac yn sbarduno ymchwilwyr y dyfodol.”
Meddai’r Tra Pharchedig Ddr Manon Ceridwen Jones, Deon Bangor yn ei rhagair i’r gyfrol:
“Yn ôl yr Athro Densil Morgan, mae’r Eglwys yng Nghymru yn ffynnu pan fydd yn cydnabod ac yn meithrin ei hunaniaeth Gymreig unigryw. Gobeithiaf, felly, bydd y gyfrol hon, ynghyd â’r holl gyfrolau eraill yn y gyfres a’r darlithoedd cysylltiedig, yn gymorth i ni ddathlu ac i ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r hunaniaeth arbennig honno.”
Yn y gyfrol hon, trafodir rhai o’r ffigyrau a fu’n cynnal Cymreictod yr Eglwys yng Nghymru o ganol teyrnasiad y Frenhines Fictoria hyd at ddegawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Yn eu plith ceir clerigwyr a lleygwyr, cerddorion a golygyddion, haneswyr ac ysgolheigion, Ucheleglwyswyr ac efengyleiddwyr, offeiriaid plwyf diwyd a rhai o ddeoniaid yr eglwysi cadeiriol ynghyd â dau esgob. Mae’r penodau yn dystiolaeth i’r bywiogrwydd a ddaeth i nodweddu Anglicaniaeth Cymru fwyfwy o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, tra bod yr ymgyrch gynyddol gynhennus i ddatgysylltu a dadwaddoli’r pedair esgobaeth a’u gwahanu oddi wrth Eglwys Loegr yn gefnlen i’r cwbl.
Bydd y gyfres ar ei hyd wedi cynnwys 55 o benodau yn olrhain cyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i’r Gymraeg, ei llen a’i diwylliant, o adeg Kynniver Llith a Ban, sef cyfieithiad William Salesbury o lithiau’r Testament Newydd yn 1551, hyd at sefydlu’r Eglwys yng Nghymru fodern yn 1920. Rhwng y cwbl, mae’n gyfraniad sylweddol at ddeall a gwerthfawrogi traddodiad pwysig yn hanes y genedl.
Lansiwyd Gofal ein Gwinllan 4 ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las gyda Dr Dewi Alter, y Barchedig Ganon Ddr Rosie Dymond a’r Parchedig Athro D. Densil Morgan yn cloriannu’r cyfraniad a wnaethpwyd drwy’r fenter hon ers ei dechreuad yn 2021.
Mae Gofal ein Gwinllan 4 a chyfrolau eraill y gyfres ar gael nawr (£12, Y Lolfa).



