Mae Esgobaeth Bangor yn lansio’r cyntaf mewn cyfres newydd o adnoddau i helpu pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr eglwys, i nodi wythnos Defnyddia dy Gymraeg.
Mae’r adnodd cyntaf, Croeso Cymraeg | Welsh Welcome, yn cynnwys geiriau ac ymadroddion Cymraeg defnyddiol ar gyfer bywyd yr eglwys, o groesawu pobl a chymryd rhan mewn addoliad i enwi gwahanol rannau o adeilad eglwys.
Mae codau QR yn cysylltu â recordiadau llais er mwyn i bobl glywed sut i ynganu’r geiriau ac ymarfer eu dweud.
Datblygwyd yr adnodd gan Elin Owen, Galluogydd y Gymraeg yn yr esgobaeth. Rôl Elin yw annog a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ar draws yr esgobaeth, mewn addoliad ac ym mywyd bob dydd yr eglwys, a helpu clerigion a staff sy’n dysgu’r iaith.
Mae Cadeirlan Bangor eisoes yn defnyddio’r adnodd ac yn annog ymwelwyr i roi cynnig ar siarad rhywfaint o Gymraeg. Bydd adnoddau yn y dyfodol yn cynnwys geiriau ac ymadroddion ar gyfer yr Adfent, pererindod, y Grawys a’r Pasg.
Meddai Elin: “Mae Defnyddia dy Gymraeg yn ymwneud â defnyddio pa bynnag Gymraeg sydd gennych chi. P’un a ydych chi’n rhugl, yn dysgu, yn deall ychydig neu’n gwybod dim ond ambell air, mae cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn yr eglwys, wrth addoli, croesawu ymwelwyr neu sgwrsio dros baned.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr adnoddau hyn yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach yn yr eglwys. Mae’r geiriau a’r recordiadau yno i helpu, p’un a ydych chi’n rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu’n ailafael mewn Cymraeg nad ydych chi wedi’i defnyddio ers tro. Does dim rhaid cael pob gair yn iawn i gymryd rhan, ac yn sicr fyddwn ni ddim yn eich beirniadu!”
Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



