Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn condemnio Gwrth-Semitiaeth
Mae esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn condemnio’n ddiamwys yr ymosodiadau diweddar ar bobl Iddewig ledled y DU. Nid oes lle i wrth-Semitiaeth yn ein cymdeithas, ac mae’n mynd yn groes i ddau orchymyn mawr y Beibl: caru Duw a charu ein cymydog.
Rydym yn falch o fod yn rhan o genedl a groesawodd Iddewon wrth iddynt ffoi rhag erledigaeth yn yr Almaen Natsïaidd, ac sydd yn parhau i gynnig noddfa i eraill sy’n ffoi rhag rhyfel a thrais.
Mewn digwyddiad rhyng-ffydd diweddar yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd yn fuan cyn etholiadau’r Senedd, llofnodwyd datganiad gan arweinwyr crefyddol o holl brif grefyddau Cymru a ddywedodd: “Gweddïwn ac hiraethwn am genedl lle gall pawb ffynnu ac nad oes angen i neb ofni; cenedl sydd wedi’i hadeiladu ar egwyddorion sylfaenol urddas dynol a’r hawl i rannu’n deg yng nghyfoeth cyffredin cymdeithas, waeth beth fo cysylltiad crefyddol, rhyw, ethnigrwydd neu statws economaidd. Clywn gri’r tlawd a’r sawl sydd ar y cyrion ac rydym yn gwrthod pob galwad i gasineb a dad-ddyneiddio.”
Rydym yn sefyll o blaid yr egwyddorion hyn ac rydym wedi ymrwymo i’w cynnal, nid lleiaf mewn perthynas â’n chwiorydd a’n brodyr Iddewig sy’n byw yng Nghymru.
Mainc yr Esgobion