Datganiad newydd y Prif Weinidog gan yr Archesgob
Ar ran yr Eglwys yng Nghymru, dwi’n llongyfarch Rhun ap Iorwerth wrth iddo ddod yn Brif Weinidog nesaf Cymru, ac rwy'n cynnig fy nymuniadau da i'r rhai sy'n ffurfio Llywodraeth newydd Cymru.
Mae arweinyddiaeth mewn bywyd cyhoeddus yn galw am amynedd, gostyngeiddrwydd a dewrder, yn enwedig ar adeg pan mae llawer o bobl yn bryderus am y dyfodol ac yn chwilio am obaith a sefydlogrwydd. Rwy'n gweddïo y bydd y weinyddiaeth newydd yn ceisio meithrin ymddiriedaeth ar draws cymunedau a gweithio er lles pawb yng Nghymru.
Mae bywyd democrataidd iach yn dibynnu ar y parodrwydd i wrando'n ofalus, ac i fynd ar drywydd lles ein cenedl gyda'n gilydd. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn sicrhau Rhun ap Iorwerth a phawb sy'n cymryd cyfrifoldeb gweinidogol am ein gweddïau wrth iddynt ddechrau'r bennod newydd hon ym mywyd ein cenedl.