English

Rydym wedi datblygu adnoddau ar-lein i'ch helpu chi i reoli eich rhodd i'ch eglwys neu'ch plwyf. Gallwch ddewis i ble mae'r rhodd yn mynd, faint i'w roi a pha mor rheolaidd yr hoffech roi.

Drwy roi, byddwch yn ein cefnogi gyda’n gwaith ledled Cymru, gan gynnwys:

  • Clerigwyr a hyfforddiant ledled y wlad
  • Ymweliadau bugeiliol â phobl sy'n agored i niwed
  • Cyrsiau ar gyfer derbyn yn aelod
  • Cysur i'r rhai sy’n galaru
  • Pob bedydd a gynigir
  • Pob pregeth a roddir
  • Pob cymun a ddathlir
  • Gweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys ym mhob cymuned.

Rhodd Cymorth

Gallwch ychwanegu Rhodd Cymorth at eich rhodd hefyd.

Rhoi yn Syth yw'r ffordd y mae'r Eglwys yng Nghymru yn rheoli rhoddion Rhodd Cymorth. Mae Rhodd Cymorth yn gymhelliant treth yn y DU sy'n galluogi unigolion i gyfrannu at elusennau yn y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n effeithiol o ran treth. Mae sefydlu taliad Rhoi yn Syth yn ffordd y gallwch helpu gwaith yr Eglwys yn uniongyrchol ar lefel leol neu genedlaethol.

Gyda Rhoi yn Syth:

  • Chi, y rhoddwr, sydd bob amser yn rheoli
  • Mae rheoli rhoddion yn haws i chi ac i'ch eglwys
  • Nid oes angen poeni am chwilio am arian mân neu lyfr siec
  • Mae eglwysi'n cael swm misol rheolaidd sy'n helpu gyda gwaith cynllunio

Os ydych yn drethdalwr, gallwch hawlio Rhodd Cymorth – gan gynyddu gwerth eich rhodd. I gael rhagor o fanylion am sut mae'r system Rhoi yn Syth yn gweithio, lawrlwythwch y daflen Rhoi yn Syth (PDF), gweler ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â giftdirect@churchinwales.org.uk

Gweinyddir Rhoi yn Syth gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, sy'n elusen gofrestredig. Elusen Gofrestredig rhif 1142813.