English

Atebion i Gwestiynau’n ymwneud â Rhoi yn Syth

Ydw i’n gorfod bod yn drethdalwr er mwyn defnyddio’r cynllun?

Na, does dim rhaid i chi fod yn drethdalwr. Gallwch ddewis gwneud eich rhoddion drwy Ddebyd Uniongyrchol a’n cyfarwyddo i beidio ag adhawlio treth. Yn yr achos hwnnw, dylech nodi hynny’n glir ar eich ffurflen.

Ydw i’n gorfod rhoi cyfarwyddyd i fy manc?

Dim ond os ydych chi wedi bod yn rhoi rhoddion drwy Orchymyn Sefydlog y bydd angen i chi gysylltu â’ch banc. (Bydd angen i chi ganslo’r Gorchymyn Sefydlog neu bydd dau swm yn cael eu tynnu o’ch cyfrif). Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau’r ffurflenni Debyd Uniongyrchol, dylech hysbysu’r Swyddfa Daleithiol am unrhyw newidiadau.

Ydw i’n gallu dal ati i roi rhoddion yn syth i’m heglwys?

Os ydych chi’n dymuno, gallwch roi rhoddion i’ch eglwys drwy Orchymyn Sefydlog, amlen wythnosol neu siec. Os yw’r Rhoddion hyn i fod yn dreth-effeithiol, bydd angen i chi gael Datganiad Cymorth Rhodd sydd yn enwi’ch Eglwys. Dylech siarad â’ch Ysgrifennydd Cymorth Rhodd am hyn.

Sut bydd fy Ysgrifennydd Cymorth Rhodd yn gwybod fy mod i’n rhoi rhoddion i’r eglwys?

Mae’r Swyddfa Daleithiol yn hysbysu Ysgrifenyddion Cymorth Rhodd yn fisol am roddion ac ad-daliadau treth sy’n cael eu talu i mewn i gyfrif yr eglwys, a phwy sydd wedi gwneud y rhoddion hynny.

Ydy gŵr a gwraig yn gallu defnyddio’r cynllun?

Ydy – os yw’r gŵr a’r wraig yn drethdalwyr, maen nhw’n gallu defnyddio’r cynllun. Fodd bynnag, bydd rhaid iddyn nhw gael ymrwymiadau Rhodd yn Syth ar wahân, hyd yn oed os yw’r rhoddion yn cael eu casglu o’r un cyfrif banc ar y cyd. Nid yw’r Eglwys yng Nghymru yn gallu derbyn ymrwymiad Rhoi yn Syth mewn mwy nag un enw.

Sut ydw i’n cynyddu neu’n lleihau fy rhodd?

Yn syml, mae angen i chi hysbysu’r Swyddfa Daleithiol yn ysgrifenedig gan ddyfynnu eich cyfeirnod Rhoi yn Syth. Eich rhodd chi yw hwn i’w ddiwygio fel y dymunwch; mae’r cyfan yn eich dwylo chi bob amser.

Beth os ydw i’n newid eglwys?

Os byddwch yn newid eglwys ac yn dymuno ailgyfeirio eich cyfraniad, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw hysbysu’r Swyddfa Daleithiol am eich dymuniadau yn ysgrifenedig, gan ddyfynnu eich cyfeirnod Rhoi yn Syth.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n rhoi’r gorau i dalu treth?

Bydd angen i chi hysbysu’r Swyddfa Daleithiol yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl. Chi sydd i benderfynu a ydych chi am ganslo’r Debyd Uniongyrchol neu ddim ond cyfarwyddo’r Swyddfa Daleithiol i beidio ag adhawlio treth.

Sut ydw i’n diwygio fy rhoddion misol?

Yn syml, mae angen i chi hysbysu’r Swyddfa Daleithiol am y swm newydd yr hoffech ei roi. Mae opsiwn i chi gynyddu eich rhodd yn flynyddol yn unol â’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Os gwnaethoch chi ddewis yr opsiwn hwn, byddwn yn dal i gysylltu â chi yn ysgrifenedig cyn dechrau cymryd y swm uwch newydd. Chi sy’n rheoli’ch rhoddion bob amser.

Ydw i’n gallu gwneud fy nghyfraniad Rhoi yn Syth drwy Orchymyn Sefydlog?

Nac ydych. System Debyd Uniongyrchol yw’r system Rhoi yn Syth ac felly, yn anffodus, nid yw’n gallu derbyn rhoddion drwy Orchymyn Sefydlog.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am Rhoi yn Syth, e-bostiwch giftdirect@churchinwales.org.uk