Hafan Cyrsiau Iaith a Gweddi

Iaith a Gweddi

Ymunwch â ni ar daith gerddorol wrth i ni archwilio Gweddi’r Arglwydd a darganfod sut mae ieithoedd yn ein cysylltu.

A group of primary aged children singing

Rydyn ni wedi gweithio gydag athrawon ymgynghorol a gweithwyr creadigol proffesiynol i ddatblygu prosiect sy’n cyfuno gweddi a cherddoriaeth i ddatblygu dealltwriaeth o sut mae iaith wedi datblygu yng Nghymru a’r byd.

Mae’n caniatáu i blant ddarganfod tebygrwydd rhwng ieithoedd a dechrau adnabod patrymau sy’n cysylltu ieithoedd..

Drwy archwilio’r geiriau yng Ngweddi’r Arglwydd, mae plant yn gallu meddwl yn ofalus am y geiriau maen nhw’n eu dweud pan fyddan nhw’n gweddïo a deall yr ystyr ymhellach.

Ieithoedd a’r Cwricwlwm i Gymru

Bydd cyflwyno cwricwlwm newydd i Gymru yn caniatáu i ysgolion ddatblygu eu cwricwlwm eu hunain yn seiliedig ar y pedwar diben craidd.

Mae pob Maes Dysgu yn cynnwys Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig. Y datganiad cyntaf yn y Maes Dysgu Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yw “Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd”

Mae’r canllawiau’n nodi:

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â phobl, lleoedd a chymunedau. Mae’r Maes hwn wedi’i gynllunio i sicrhau bod dysgwyr, fel dinasyddion Cymru ddwyieithog mewn byd amlieithog, yn gallu defnyddio Cymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill mewn cyd-destun lluosieithog. Drwy godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth ieithoedd o oedran cynnar, y nod yw galluogi dysgwyr i adnabod tebygrwydd rhwng ieithoedd a gwerthfawrogi’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Gall dysgu a phrofiad yn y Maes hwn gefnogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth o darddiad, esblygiad a nodweddion amrediad o ieithoedd.

Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Gweddi’r Arglwydd, a ddysgwyd gan Iesu Grist i’w ffrindiau, yw un o’r gweddïau Cristnogol mwyaf poblogaidd ar draws y byd. Mae ar gael mewn llawer o ieithoedd gwahanol. Bydd cwricwlwm newydd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg Cymru yn annog dysgwyr i ddatblygu eu hysbrydolrwydd a’u meddyliau eu hunain am weddi ynghyd â dysgu am ffynonellau o awdurdod crefyddol.

Y Gerddoriaeth

Traciau demo a thraciau cefndir

Y Prosiect Cyfieithwyr

Fideo difyr am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Yn dilyn dosbarthu cyfieithiad William Salesbury o’r Testament Newydd a’r Llyfr Gweddi i bob plwyf eglwysig yng Nghymru ym 1567, daeth y Gymraeg y 13eg iaith y cyfieithwyd y Beibl cyfan iddi ym 1588, diolch i gyfieithiad William Morgan, Esgob Eglwys Gadeiriol Llanelwy.

Diolch i Dreftadaeth Eglwys Gadeiriol Llanelwy am ganiatâd i’w ddefnyddio.

Fideos Addysgu

Gwers 1 (Saesneg)

Gwers 3

Gwers 5

Gwers 2 (Saesneg)

Gwers 4

Gwers 6

Ein Cyfranwyr

Carrie Fisher

Ar hyn o bryd, mae Carrie yn Ddirprwy Bennaeth Gweithredol yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llansanwyr a Llanhari. Mae wedi gweithio gyda Chonsortiwm Canolbarth y De i ddatblygu eu rhaglen ieithoedd ers sawl blwyddyn, a hi bellach yw Prif Gydlynydd Cynradd y rhanbarth ar gyfer Ieithoedd Rhyngwladol. Rhan o’i gwaith yw bod yn gyfrifol am ddatblygu’r cymorth Dysgu Proffesiynol i athrawon Cynradd yn unol â gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru i gynnwys Ieithoedd Rhyngwladol a llinyn Mae Ieithoedd Yn Ein Cysylltu Â’n Gilydd o Faes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Mae hi hefyd yn aelod o grŵp llywio Dyfodol Byd-eang Llywodraeth Cymru sydd â’r dasg o gyflwyno ieithoedd Rhyngwladol mewn ysgolion cynradd ledled Cymru

Tim Riley

Mae Tim wedi bod yn gweithio fel cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerddorol ers diwedd y 1980au. Mae gan lawer o’i waith gyswllt ag addysg – mae ei gyn swyddi wedi cynnwys cyfnod fel cyfansoddwr preswyl gyda’r adran addysg yn Opera Cenedlaethol Cymru, cyfarwyddwr cerddorol Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru ac mae wedi gwneud llawer o waith gyda chwmnïau Theatr mewn Addysg yn Ne Cymru. Mae hefyd wedi cyfansoddi caneuon a cherddoriaeth achlysurol ar gyfer nifer o ddramâu Radio 4 a recordiwyd yng Nghaerdydd.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau ar gyfer y British Council – Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Cymru a Chonsortiwm Canolbarth y De. Mae’r holl waith hwn wedi archwilio’r cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, iaith, diwylliant a hunaniaeth ac wedi’i gyflwyno mewn cyd-destun Ysgol Gynradd yng Nghymru.