Bendithio Priodas Sifil neu Partneriaeth Sifil Dau Berson o’r un rhyw
Litwrgi ar gyfer Bendithio Priodas Sifil dau berson o’r un rhyw neu Partneriaeth Sifil Dau Berson o’r un rhyw:
Testun wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio o 1 Hydref 2021
Gall y pâr ddod i mewn i’r eglwys gyda’i gilydd yn arwydd o’r ymrwymiad a wnaethant eisoes, y naill i’r llall, yn eu Priodas Sifil / Partneriaeth Sifil.
Gellir chwarae cerddoriaeth neu ganu emyn.
Y Croeso
Yn Enw’r Tad,
a’r Mab,
a’r Ysbryd Glân. Amen.
Estynnir geiriau o groeso i’r pâr, eu teuluoedd, eu ffrindiau a’u cefnogwyr.
Cyflwyniad
Naill ai:
Garedigion yng Nghrist, yr ydym wedi ymgynnull ym mhresenoldeb Duw i ddathlu uniad E. a(c) E. ac i ddeisyf ei fendith ar eu dyfodol gyda’i gilydd.
Dywedodd Iesu, ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl feddwl. Dyma’r gorchymyn cyntaf a phwysicaf.’
Mathew 22. 37-38
Mae dilyn y ffordd hon lle gwneir ymrwymiad i Dduw, yn golygu mai Iesu yw’r goleuni sy’n ein tywys, ac mai ato ef yr awn yn gyson am gynhaliaeth, cadarnhad a chariad diderfyn. O’n rhan ni, mae ymrwymo iddo ef yn golygu dwyn i’r amlwg ffrwyth yr Ysbryd; yn golygu byw bywyd o hunan-aberth cariadus; yn golygu byw bywyd Crist.
Duw yw Crëwr pob peth, er hynny y mae’n nes na’r anadl sydd ynom. Cariad yw ffordd Duw, ac y mae pawb sy’n ymwybod â chariad yn adnabod Duw. Gan hynny, boed i ni weddïo ar Dduw.
Neu:
Garedigion yng Nghrist, yr ydym wedi ymgynnull yma heddiw ym mhresenoldeb Duw i ddathlu cariad E. a(c) E. at ei gilydd, i’w cefnogi ar daith bywyd ac i weddïo am fendith Duw ar eu Priodas/Partneriaeth Sifil wrth iddynt, gyda’i gilydd, fyw bywyd o gariad ac ymrwymiad ffyddlon.
Mae’r Ysgrythur Lân yn ein hatgoffa inni gael ein creu i fyw ein bywyd mewn perthynas â’n gilydd, ac mewn perthynas â’r Duw a’n galwodd i fod ac a’n creodd ar ei ddelw ef ei hun. Pan fydd dau berson yn ymrwymo, y naill i’r llall, mewn cyfamod gydol-oes o gariad a ffyddlondeb datgelir inni, drwy eu perthynas hwy, fwriadau cariadlon Duw a natur ddiamod y cariad dwyfol tuag at holl deulu dynoliaeth.
Y weddi agoriadol
Naill ai:
Hollalluog Dduw,
rhoddwr pob peth da
a ffynhonnell pob perthynas gariadus,
erfyniwn ar i’th Ysbryd Glân fod gyda ni
ar y dydd hwn o lawenydd mawr.
Diolchwn i ti am alw E. a(c) E. i’th wasanaethu.
Cynorthwya hwy i ymateb yn siriol i’th alwad ac i wneud dy ewyllys.
Cymhwysa eu bywydau er mwyn iddynt fod yn barod pan ddaw dy archiad,
fel y gallont dy wasanaethu’n ffyddlon
ac amlygu dy gariad i’r byd
drwy’r ymrwymiad gydol-oes
a wnânt gerbron dy Eglwys sydd wedi ymgynnull yma heddiw.
Offrymwn y weddi hon a’n holl weddïau
drwy Grist, ein Harglwydd byw a chariadlon. Amen.
Neu:
Sanctaidd, fendigaid Drindod,
yr wyt yn datguddio dy hun i ni yn Dad, Mab ac Ysbryd Glân,
sy’n fyw ac sy’n teyrnasu mewn undod perffaith o gariad;
boed i’r cariad sy’n llifo’n wastadol yn dy galon
orlifo i lanw bywydau E. a(c) E.
Boed iddo eu rhwymo hwy ynghyd mewn cyfamod perffaith o gariad,
fel y bydd iddynt gynyddu mewn cariad ac ymrwymiad
i’w gilydd ac i ti,
oherwydd ti yw’r Un Duw sy’n fyw ac sy’n teyrnasu
yn oes oesoedd. Amen.
Gellir canu emyn.
Darlleniadau
Bydd un neu fwy o ddarlleniadau Ysgrythurol yn dilyn fan hyn. Mae’r rhestr isod yn cynnwys enghreifftiau o ddarlleniadau addas. Rhaid i un darlleniad ddod o’r Efengylau.
Caniad Solomon 2. 10-13; 8. 6, 7
Eseia 43. 1-3a, 4-5a
Ruth 1. 16-18
Salm 67 neu 121
Mathew 5. 1-10
Ioan 2. 1-11
Ioan 15. 9-17
Rhufeiniaid 12. 1, 2, 9-13
1 Corinthiaid 13
Philipiaid 4. 4-9
Colosiaid 3. 12-17
Effesiaid 3. 14-diwedd
1 Ioan 4. 7-12
Ar ôl y darlleniad(au) Ysgrythurol dywedir ...
Naill ai:
Dyma air yr Arglwydd.
Diolch a fo i Dduw.
Neu:
Gwrandewch ar yr hyn y mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr Eglwys.
Diolch a fo i Dduw.
Yn ôl fel y gwelo’r gweinidog yn dda, gellir cynnwys darlleniad addas sydd heb fod o’r Beibl.
Y Bregeth
Gellir pregethu fan hyn.
Yna saif y pâr o flaen y gweinidog a’r gynulleidfa i wneud eu haddunedau gerbron Duw a’r Eglwys.
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad. Amen.
1 Ioan 4. 7b
Naill ai:
Ailadrodd yr Addunedau
Yn ôl fel y gwelo’r gweinidog yn dda, gall y pâr ailadrodd yr addunedau a wnaed yn seremoni eu Priodas / Partneriaeth Sifil.
Mae E. a(c) E. yn gyfreithlon briod / wedi cyfamodi eu Partneriaeth Sifil ac yn awr, gerbron Duw a’r Eglwys, maent yn ailadrodd eu haddunedau a wnaethant ar (y dyddiad).
Mae’r pâr yn wynebu ei gilydd ac yn cydio dwylo cyn ailadrodd eu haddunedau.
Neu:
Gweithred yr Ymrwymiad
E. a(c) E. yr ydych eisoes wedi ymrwymo, y naill i’r llall, yn eich Priodas / Partneriaeth Sifil pan wnaethoch [o flaen eich teulu a’ch ffrindiau] addunedau difrifddwys i sefydlu cyfamod o gariad a ffyddlondeb rhyngoch am weddill eich dyddiau gyda’ch gilydd.
Yr wyf yn awr yn eich gwahodd i adnewyddu eich ymrwymiad i’ch gilydd gerbron Duw a’r Eglwys.
E. a(c) E. a ydych yn dymuno datgan o’r newydd eich cariad a’ch ymrwymiad i’ch gilydd [o flaen eich teulu a’ch ffrindiau ac] ym mhresenoldeb Duw?
Y Pâr: Ydym.
Bydd y naill a’r llall yn ymateb yn ei dro i’r gofynion isod.
E., a wyt ti’n rhoi dy hunan mewn cariad, ffyddlondeb ac ymrwymiad i E. mewn cyfamod o gariad am weddill dy ddyddiau?
Ydwyf.
E., a wyt ti’n rhoi dy hunan mewn cariad, ffyddlondeb ac ymrwymiad i E. mewn cyfamod o gariad am weddill dy ddyddiau?
Ydwyf.
Deulu a ffrindiau / Frodyr a chwiorydd a wnewch chi bopeth yn eich gallu i garu, cefnogi a gofalu am E. a(c) E. wrth iddynt roi ar waith yn eu bywyd eu cyfamod o gariad at ei gilydd?
Gwnawn.
Gall y pâr fynegi eu hymateb i gariad Duw yng ngeiriau Salm 16 gan arfer un o’r ffurfiau isod, neu ffurf arall, yn ôl fel y gwelo’r gweinidog yn dda.
*Salm 16 (Trosiad o ‘Salm 16’ Redux [Carla Grosch-Miller])
Gartref dilys, pa fodd y medrwn ddewis arall?
Llawnder i’m gwacter,
dŵr i’m syched,
cefnfor i’m diferyn glaw, canolbwynt llonydd
a’m tyn i mewn
ac a ŵyr fy enw.
Wastatir eang, ble arall y dymunwn grwydro?
Golygfeydd rhyfeddol,
gorwelion yn ymledu,
gras anfeidrol,
lle i anadlu
a’r siawns a gymer cariad wrth roi ei hunan.
Troetffordd gywir, pwy arall y gallwn ddilyn?
Llwybr treuliedig ac amyneddgar,
yn ffinio rhyddid,
yn meithrin doethineb,
yn cyflawni llawenydd.
Nid yw baglu
yn faglu i Ti.
Yr wyt yn fy nghodi’n dyner a’m gwahodd ymlaen.
Gan hynny mae fy nghalon yn llawen a’m henaid yn gorfoleddu;
fy nghorff hefyd sy’n gorffwys yn ddiogel.
Salm 16 (Y Beibl Cymraeg Newydd [Argraffiad Diwygiedig])
Cadw fi, O Dduw:
oherwydd llochesaf ynot ti.
Dywedais wrth yr Arglwydd:
“Ti yw f’arglwydd, nid oes imi ddaioni ond ynot ti.”
Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad:
melltith ar bob un sy’n ymhyfrydu ynddynt.
Amlhau gofidiau y mae’r un sy’n blysio duwiau eraill:
ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,
na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
Ti, Arglwydd, yw fy nghyfran a’m cwpan:
ti sy’n diogelu fy rhan;
syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol:
ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
Bendithiaf yr Arglwydd a roddodd gyngor i mi:
yn y nos y mae fy meddyliau’n fy hyfforddi.
Gosodais yr Arglwydd o’m blaen yn wastad:
am ei fod ar fy neheulaw, ni’m symudir.
Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f’ysbryd:
a chaiff fy nghnawd fyw’n ddiogel;
oherwydd ni fyddi’n gadael fy enaid i Sheol:
ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
Dangosi i mi lwybr bywyd;
yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd:
ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.
Bendithio’r Modrwyau (dewisol)
Gall y pâr dynnu eu modrwyau a’u gosod ar Lyfr Gweddi’r gweinidog sy’n gweinyddu, neu gallant ddal eu dwy law chwith ynghyd wrth i’r modrwyau gael eu bendithio.
Dduw graslon,
trwy nerth dy Ysbryd,
tirion fel y golomen ond yn llosgi’n wenfflam gan dân dy gariad,
boed i’r modrwyau hyn fod i E. a(c) E.
yn arwydd a symbol o’th gariad diderfyn di atynt hwy
ac o’u cariad hwy at ei gilydd.
Boed i’r modrwyau hyn eu rhwymo at ei gilydd ac atat ti
mewn cyfamod perffaith o gariad a ffyddlondeb;
drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gesyd y pâr y modrwyau ar ddwylo ei gilydd neu, os ydynt eisoes ar y dwylo, cymer y pâr afael ym modrwyau ei gilydd a dweud y geiriau isod. Neu gallant gynnig rhodd neu symbol i’w gilydd, neu gynnau cannwyll bob yr un ar ganhwyllbren triphlyg; bryd hynny arferir y geiriau sydd isod mewn cromfachau.
Cyfnewid y Modrwyau neu’r Rhoddion neu Gynnau Cannwyll Symbolaidd
E. y fodrwy / y rhodd hon yw arwydd fy nghariad atat ti,
neu [E. goleuaf y gannwyll hon yn arwydd o’m cariad atat ti]
arwyddnod fy ymrwymiad i ti,
offrwm i ti o’r cyfan yr ydwyf a’r cyfan a feddaf.
Fe’th garaf mewn iechyd a hawddfyd.
Fe’th garaf mewn gwaeledd ac adfyd.
Boed i’r arwydd hwn ein rhwymo ynghyd mewn cyfamod diderfyn o gariad
am weddill ein dyddiau gyda’n gilydd.
Gwnaf fy nghyfamod ym mhresenoldeb Duw
a’n gwnaeth ni, a’n câr ni ac a rydd inni fywyd.
Os cynheuir canhwyllau goleua’r pâr drydedd gannwyll gyda’i gilydd a diffoddir y ddwy gannwyll sydd naill ochr.
Bendithio’r Pâr
Gall y gweinidog rwymo ei stôl o gylch dwylo’r pâr.
Naill ai:
Rhwymed cariad yr Arglwydd chwi ynghyd
â rhwymau na ellir eu torri. Amen.
Meithrined cariad yr Arglwydd chwi
wrth ichwi ddysgu caru eich gilydd fwyfwy. Amen.
Boed i gariad yr Arglwydd eich herio
i ddod yn bobl lwyr agored iddo ef. Amen.
Gwylied cariad yr Arglwydd drosoch
a’ch cadw rhag pob drwg. Amen.
Bendithied cariad yr Arglwydd chwi
wrth ichwi deithio ymlaen gyda’ch gilydd. Amen.
Boed i gariad yr Arglwydd eich dwyn chwi i fywyd tragwyddol. Amen.
Neu:
Wrth i’r pâr ddal dwylo:
Boed i Dduw’r Tad a’ch creodd ac a anadlodd ynoch anadl einioes, eich bendithio.
Boed i Dduw’r Mab a ledaenodd ei freichiau mewn cariad ar y groes, eich bendithio.
Boed i Dduw’r Ysbryd Glân sy’n ennyn yn eich calonnau fflam cariad, eich bendithio.
Boed i’r Drindod anfeidrol a gogoneddus gyfnerthu’r cyfamod rhyngoch, a rhwymo eich bywydau ynghyd â chariad
fel y byddoch un yn fendith i’r llall ac yn arwydd gweledol o fwriadau cariadlon Duw i’w blant i gyd. Amen.
Gellir canu emyn.
[Cyflwyno Tystysgrif]
Fan hyn gellir cyflwyno tystysgrif addas ei geiriad i’r pâr i’w hatgoffa o’r addunedau a wnaed gerbron Duw.
Y Gweddïau
Naill ai:
Arglwydd cariadlon, wrth inni barhau i roi diolch am E. a(c) E. ac i’w cefnogi yn yr ymrwymiad a wnaethant heddiw yn dy bresenoldeb di, cynorthwya hwy i ymddiried ynot ac yn ei gilydd fel y gallont wynebu’r dyfodol â chyffro, hyder a gobaith. Boed iddynt ymwybod â’th dangnefedd a’th bresenoldeb di holl ddyddiau eu bywyd gyda’i gilydd.
Arglwydd pob bywyd a chariad,
gwrando ein gweddi.
Arglwydd cariadlon, diolchwn am bawb sy’n llawenhau heddiw gyda E. a(c) E. . Bu dy Fab yn rhannu ym mywyd cartref daearol, gan hynny gofynnwn y bydd i’r teuluoedd hyn dyfu’n fwyfwy parod a bodlon i’th garu a’th wasanaethu di wrth iddynt ymateb i anghenion ei gilydd. Dyro iddynt y bendithion hynny a’u galluoga i wneud eu cartrefi yn fwy teilwng o’th bresenoldeb di.
Arglwydd pob bywyd a chariad,
gwrando ein gweddi.
Arglwydd cariadlon, boed i gartref E. a(c) E. fod yn drigfan hedd ac undod lle tyfo eu cariad at ei gilydd, eu cariad at eu cymydog, eu cariad at fywyd ei hunan a’u cariad atat ti. Gofynnwn ar i’w cartref fod yn rhagflas o’r cartref tragwyddol lle yr aeth Crist i baratoi lle i ni.
Arglwydd pob bywyd a chariad,
gwrando ein gweddi.
Arglwydd cariadlon, gweddïwn dros y gymuned eglwysig [y perthyn E. a(c) E. iddi], a deisyfwn dy fendith ar bawb sy’n cymryd rhan yn ei bywyd a’i gwaith yng ngweinidogaeth y gair a’r sacrament, yn ei haddysgu a’i gofal bugeiliol, yn ei gwasanaeth i’r esgobaeth ac i bawb sy’n anghenus, ac yn ei chymdeithasu a’i chydweithio ag eglwysi eraill.
Arglwydd pob bywyd a chariad,
gwrando ein gweddi.
Arglwydd cariadlon, gweddïwn y bydd i E. a(c) E. wynebu eu dyfodol yn deall y daw anawsterau, na fydd yr haul yn tywynnu arnynt o hyd, y bydd poen weithiau yn ymdreiddio i hapusrwydd ac y bydd ganddynt, bob yr un, farn ac anghenion neilltuol am mai unigolion ydynt. Na foed iddynt dyfu ar wahân, ai mewn adfyd neu hawddfyd, a boed iddynt gofio’r addunedau a wnaed ganddynt heddiw. Boed iddynt gael eu cyfnerthu o wybod am eu cariad at ei gilydd a’th gariad di atynt hwy.
Arglwydd pob bywyd a chariad,
gwrando ein gweddi.
Gellir offrymu gweddïau eraill fel y bo’n gymwys.
Neu:
Hollalluog Dduw, fe’n gwnaethost ni ar dy ddelw dy hun a’n gwaredu â’th gariad. Fe’n gelwaist i fyw mewn cyfamod o gariad gyda thi a chyda’n gilydd; bendithia E. a(c) E. wrth iddynt dderbyn dy fendith ar gyfamod eu cariad a seliwyd eisoes yn eu Priodas / Partneriaeth Sifil.
Arglwydd, clyw ni.
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Tywallt dy Ysbryd yn rhodd gariadlon ar E. a(c) E i’w nerthu a’u hadnewyddu yn eu bywyd gyda’i gilydd fel y bydd eu perthynas yn bywhau ac yn parhau tra byddont. Boed iddynt fod yn gynhaliaeth ac yn nerth i’w gilydd ar daith bywyd, yn enwedig ar adegau o ofid, anhawster a thristwch.
Arglwydd, clyw ni.
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Bendithia eu cartref [gellir enwi aelodau o’r teulu fan hyn] fel y byddo’n lle o groeso a lletygarwch i deulu, ffrindiau neu ddieithriaid. Boed iddynt rannu o’r llawnder a gawsant hwy i ddwyn hedd, gobaith a llawenydd i gymdogion anghenus ac i gysuro’r sawl sydd mewn cyfyngder.
Arglwydd, clyw ni.
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Tywys a gwarchod hwy drwy rodd dy air a chyfoeth dy sacramentau fel mai eu ffydd ynot ti a fydd y sail cadarn y saif eu perthynas yn ddi-sigl arni.
Arglwydd, clyw ni.
Arglwydd, yn rasol clyw ni.
Gellir offrymu gweddïau eraill fel y bo’n gymwys.
Dad trugarog,
derbyn y gweddïau hyn,
er mwyn dy Fab,
ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen
Gweddi’r Arglwydd
A ninnau wedi ein gwneud yn un gan yr Ysbryd, Arglwydd dysg i ni weddïo.
Naill ai:
Ein Tad, yr hwn wyt yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys,
megis yn y nef, felly ar y ddaear hefyd.
Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau i ni ein dyledion
fel y maddeuwn ninnau i’n dyledwyr.
Ac nac arwain ni i brofedigaeth,
eithr gwared ni rhag drwg.
Canys eiddot ti yw’r deyrnas,
a’r gallu, a’r gogoniant,
yn oes oesoedd. Amen.
Neu:
Ein Tad yn y nefoedd,
sancteiddier dy enw,
deled dy deyrnas,
gwneler dy ewyllys
ar y ddaear fel yn y nef.
Dyro inni heddiw ein bara beunyddiol,
a maddau inni ein troseddau
fel yr ŷm ni wedi maddau
i’r rhai a droseddodd yn ein herbyn;
a phaid â’n dwyn i brawf
ond gwared ni rhag yr Un drwg.
Oherwydd eiddot ti yw’r deyrnas
a’r gallu a’r gogoniant
yn awr ac am byth. Amen.
Y Fendith
Bydded i Dduw, y mae ei Ysbryd yn llenwi ein calonnau â chariad, llawenydd a thangnefedd,
fod gyda chwi, y rhai a garoch a’r rhai sydd yn eich gweddïau,
y dydd hwn ac am byth;
a bendith Duw Hollalluog,
y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân,
a fo yn eich plith ac a drigo gyda chwi yn wastad. Amen.
Wrth i’r pâr adael yr eglwys, gellir chwarae cerddoriaeth neu ganu emyn.
Cydnabyddiaethau
*‘Psalm 16’ o Psalms Redux: Poems and Prayers gan Carla Grosch-Miller, © Carla Grosch-Miller 2014. Argraffwyd gan Wasg Caergaint. Defnyddiwyd drwy ganiatâd. rights@hymnsam.co.uk
Y Beibl Cymraeg Newydd (Argraffiad Diwygiedig) © Y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor 2004. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
Hawlfraint
© Hawlfraint Corff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 2021:
Mae rhannau sylweddol o ddeunydd hawlfraint yn eiddo i Gorff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru ac ni ellir eu hatgynhyrchu o fewn telerau unrhyw drwydded a ganiatawyd gan y Copyright Licensing Agency Limited na’r Publishers Licensing Society Limited. Cedwir pob hawl. Ni chaniateir storio unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn mewn system adalw, na throsglwyddo dim ohono ar unrhyw ffurf neu drwy unrhyw ddull, electronig, mecanyddol, llungopïo, cofnodi neu fel arall at ddibenion atgynhyrchu print heb ganiatâd ysgrifenedig blaenorol yr Eglwys yng Nghymru, ac eithrio fel y caniateir yn benodol.
Atgynhyrchiad a Ganiateir
Gellir atgynhyrchu’r llyfr hwn neu unrhyw ran ohono, sef Litwrgi ar gyfer Bendithio Priodas Sifil dau berson o’r un rhyw neu Partneriaeth Sifil dau berson o’r un rhyw, i’w ddefnyddio a heb dalu ffi ar yr amod nad yw copïau’n cael eu gwerthu, nad oes mwy na 250 o gopïau yn cael eu hatgynhyrchu ac y rhoddir enw’r plwyf, y gadeirlan neu’r sefydliad ar y clawr blaen neu’r dudalen flaen gyda’r disgrifiad o’r gwasanaeth a bod y gydnabyddiaeth ganlynol wedi’i chynnwys:
Litwrgi ar gyfer Bendithio Priodas Sifil dau berson o’r un rhyw neu Partneriaeth Sifil dau berson o’r un rhyw.
© Hawlfraint Corff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru 2021.
Dylai plwyfi, cadeirlannau neu sefydliadau sy’n dymuno atgynhyrchu testun neu lyfrau y tu allan i’r telerau uchod gyflwyno cais ysgrifenedig i’r diben hwnnw i’r Rheolwr Cyhoeddiadau. Ym mhob achos dylid cadw copi fel cofnod o bob un o’r cyhoeddiadau: publications@churchinwales.org.uk
Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru
BIL I AWDURDODI DEFNYDD ARBROFOL O DDIWYGIADAU ARFAETHEDIG o’r LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (gwasanaeth Bendithio yn dilyn Partneriaeth Sifil neu Briodas rhwng Dau Berson o'r un rhyw)
GAN FOD Urdd y Clerigion ac Urdd y Lleygion o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi dangos eu barn trwy bleidlais anffurfiol ar 12 Medi 2018 'ei bod yn fugeiliol anghynaliadwy i'r Eglwys barhau i beidio â gwneud unrhyw ddarpariaeth ffurfiol ar gyfer y rhai sydd mewn perthynas un-rhyw.’
A CHAN FOD Mainc yr Esgobion yn credu ei bod yn ddymunol, cyn i fil i ddiwygio rhan o'r Llyfr Gweddi Gyffredin gael ei gyflwyno gan yr Esgobion i'w ystyried gan y Corff Llywodraethol, defnyddio trefn arfaethedig o wasanaeth yn arbrofol yn eglwysi’r Eglwys yng Nghymru am gyfnod cyfyngedig.
DEDDFER TRWY HYN:
- Y bydd gan Esgobion Esgobaethol y grym i awdurdodi at ddefnydd arbrofol yn yr eglwysi yn eu hesgobaeth y drefn a nodir yn yr Atodiad ar gyfer gwasanaeth Bendithio yn dilyn Partneriaeth Sifil neu Briodas rhwng dau berson o'r un rhyw am gyfnod o bum mlynedd o 1 Hydref 2021, yn unol â’r amodau a nodir isod.
- Ni fydd gorfodaeth ar unrhyw Glerig i weinyddu mewn gwasanaeth o'r fath.
Cefnogwyr: +John Cambrensis, +Andrew Bangor, +Gregory Llanelwy, +Joanna Tyddewi, +June Landav, +Cherry Mynwy