English

Bishop Mary visits Llanfair Uniting Church.jpg

Mae’r Esgob Mary a’r Parchedig Emma wedi ymweld ag Eglwys Uno Llanfair ym Mhenrhys yn Ardal Weinidogaeth y Rhondda i ddysgu am y ffyrdd niferus y mae’r eglwys yn gwneud gwahaniaeth i’r gymuned.

Eglwys eciwmenaidd yw Llanfair, a gefnogir ac a gydnabyddir gan wyth o Eglwysi hanesyddol Cymru (yr Eglwys yng Nghymru, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, Undeb Bedyddwyr Cymru, y Ffederasiwn Cynulleidfaol, yr Eglwys Fethodistaidd, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, a'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig).

Mwynhaodd yr Esgob Mary daith o amgylch yr eglwys gyda Sharon Rees, sydd wedi bod yn gwasanaethu yno ers 1991.

Mae’r eglwys yn cwrdd â chymaint o anghenion y gymuned ac yn enghraifft mor dda o wahanol enwadau yn cydweithio. Nid yn unig mae Llanfair yn ddaearyddol yng nghanol Pen-rhys ond mae yng nghanol bywyd y gymuned.

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llandaf: