English

Assisted dying Bill.jpeg

Wrth i'r Bil Cymorth i Farw gyrraedd cam tyngedfennol yn Nhŷ'r Cyffredin, mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru wedi ailddatgan eu gwrthwynebiad i'r mesur ac wedi ailgyhoeddi eu datganiad yn galw am beidio â rhoi terfynau ar dosturi.

Datganiad yr Esgobion

Mae hwn yn fater hynod o boenus y bydd gwahanol bobl, gan gynnwys Cristnogion, wedi dod i farn wahanol yn ei gylch, a hynny gyda’r bwriadau gorau. Serch hynny, mae’n rhaid mai’r flaenoriaeth bennaf yw i amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas rhag y risgiau sy’n gynhenid ​​yn y mesur hwn. Am y rheswm hwnnw, ni allwn, mewn pob cydwybod dda, gefnogi’r ddeddfwriaeth arfaethedig. Yn y gwledydd hynny lle mae’r mesur hwn wedi’i dod i rym, ceir tystiolaeth helaeth o’r modd y gall bwriadau da arwain yn gyflym at ganlyniadau gwael ac anfwriadol, ac at ddibrisio bywyd dynol fel y cyfryw. Mae ein ffydd Gristnogol bob amser wedi'i gwreiddio mewn realiti poen a marwoldeb, ond hefyd yng ngwerth anfesuradwy pob person dynol, waeth beth fo'u statws cymdeithasol, eu mynediad at adnoddau, neu eu gallu corfforol neu feddyliol. Yn yr ysbryd hwnnw, a ddangosir inni ym mherson Iesu, rhown ein cefnogaeth ddiffuant i ymestyn y gofal lliniarol gorau posibl i bawb sydd ei angen, fel nad oes unrhyw derfynau ar y tosturi a ddangoswn fel unigolion ac fel cymdeithas.

Archesgob Cymru, Andrew John

Esgob Llanelwy, Gregory Cameron

Esgob Mynwy, Cherry Vann

Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas

Esgob Llandaf, Mary Stallard

Esgob Tyddewi, Dorrien Davies

Esgob Enlli, David Morris