Gan dynnu ar esiampl y cymunedau Cristnogol cynnar a ddisgrifir yn Actau'r Apostolion, mae'r Parchedig Cherry Vann yn annog yr Eglwys yng Nghymru i adnewyddu ei hymrwymiad i undod, haelioni, disgyblaeth, a chenhadaeth.
Mae'r anerchiad yn archwilio'r heriau a'r cyfleoedd o fyw fel pobl "o un galon ac enaid" yn y byd cymhleth a rhannedig heddiw. Mae'r Archesgob yn galw ar yr Eglwys i adnewyddu ei hymrwymiad i weddïo, haelioni, disgyblaeth, efengylu, a chefnogaeth i'r ddwy ochr, gan annog Cristnogion i ymgorffori cariad trawsnewidiol Crist trwy'r ffordd y maent yn byw gyda'i gilydd ac yn gwasanaethu eraill. Wrth i'r Corff Llywodraethol ystyried ystod o faterion pwysig, mae'n annog aelodau i ddefnyddio gwerthoedd undod, rhannu, urddas, a thystiolaeth ffyddlon fel canllaw ar gyfer bywyd a chenhadaeth yr Eglwys yn y dyfodol.
Yr hyn a ganlyn yw testun llawn anerchiad yr Archesgob:
Hoffwn fynd â chi yn ôl 2,000 o flynyddoedd i ddechreuadau’r Eglwys Gristnogol a'ch gwahodd i ddychmygu eich hun yn yr olygfa rwyf am ei disgrifio. Rwy'n gwybod bod hyn yn haws i'w wneud i rai nag eraill, ond wrth i mi ddarllen, ceisiwch roi eich hun yn y stori a dychmygu sut beth yw bod yno.
‘Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau. Daeth ofn ar bob enaid; yr oedd rhyfeddodau ac arwyddion lawer yn cael eu gwneud drwy’r apostolion. Yr oedd yr holl gredinwyr ynghyd yn dal pob peth yn gyffredin. Byddent yn gwerthu eu heiddo a'u meddiannau, ac yn eu rhannu rhwng pawb, yn ôl fel y byddai angen pob un. A chan ddyfalbarhau beunydd yn unfryd yn y deml, a thorri bara yn eu tai, yr oeddent yn cyd-fwyta mewn llawenydd a symledd calon, dan foli Duw a chael ewyllys da’r holl bobl. Ac yr oedd yr Arglwydd yn ychwanegu beunydd at y gynulleidfa y rhai oedd yn cael eu hachub.' (Actau 2: 42-diwedd)
Bydd y darn hwn o ddiwedd pennod 2 Actau'r Apostolion yn sicr yn gyfarwydd i chi. Mae'n disgrifio rhai o egwyddorion allweddol disgyblaeth a chymuned, a oedd yn gwbl ganolog i ruddin yr eglwys yn y dyddiau cynharaf hynny. D’wn im amdanoch chi ond pryd bynnag y bydda i’n clywed neu'n darllen y darn hwn, mae’n gryn her i mi. Mae'n disgrifio cymuned o bobl a wnaeth ymroi i weddi a chymdeithas, i ddysgu a thyfu
wrth iddyn nhw ganiatáu eu hunain i gael eu siapio gan ddysgeidiaeth yr apostolion. Dywedir wrthym eu bod ynghyd. Eu bod wedi treulio llawer o amser gyda'i gilydd, yn cyd-fwyta mewn llawenydd a symledd calon. Mae'n disgrifio cymuned fywiog a Duw-ganolog, yn moli Duw yn y deml ac yn torri bara gyda'i gilydd yn eu cartrefi. Cymaint oedd eu synnwyr o undod ac agosatrwydd fel eu bod yn cael eu hysgogi gan ffydd i ddal pob peth yn gyffredin – gan fynd cyn belled â gwerthu eu heiddo a'u nwyddau a rhannu'r elw fel nad oedd neb yn mynd heb ddim. Doedd neb yn parhau mewn angen.
Roedd hon yn ffordd cwbl wahanol a radical o fyw. Ac roedd pobl yn sylwi. Mae'r darn yn dweud wrthym fod pawb wedi rhyfeddu wrth iddyn nhw weld y cyfoethog a’r tlawd yn byw yn gytûn, yn cefnogi ac yn helpu ei gilydd mewn ffordd mor anhunanol a hael, ac roedden nhw’n rhyfeddu at y rhyfeddodau a'r arwyddion a welsant yr apostolion yn eu gwneud.
Dwy bennod yn ddiweddarach, yn dilyn iacháu’r dyn dall wrth gatiau'r deml a rhai areithiau pwerus a wnaed gan Pedr i'r dorf ac i'r awdurdodau crefyddol, cawn ein tywys yn ôl at ddisgrifiad o'r hyn a oedd wrth wraidd y gymuned ryfeddol a newydd hon:
‘Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o’i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin. Â nerth mawr yr oedd yr apostolion yn rhoi eu tystiolaeth am atgyfodiad yr Arglwydd Iesu, a gras mawr oedd arnynt oll. Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, yn dod â’r tâl am y pethau a werthid, ac yn ei roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn ôl fel y byddai angen pob un.’ (Actau 4:32-35)
Mae dau fileniwm wedi mynd heibio ers hynny ac mae'r eglwys wedi tyfu a lledaenu i bedwar ban byd. Mae arweinwyr wedi gorfod datblygu ffyrdd o gynnal undod, trefn a llywodraethu da ar draws ardaloedd daearyddol enfawr; mewn gwahanol gyd-destunau ac mewn gwahanol wledydd. Maen nhw wedi gorfod gweithio allan sut i gytuno ar yr hyn sy'n wir ac yn ffyddlon i berson a gwaith Iesu Grist ac yna dod o hyd i ffyrdd o ddelio â gwahaniaeth ac anghytundeb, yn ogystal â sgismau a heresïau. Mae'r eglwys yn y rhan fwyaf o achosion wedi datblygu’n sefydliad, gan orfod llywio ei lle mewn byd sy'n bythol newid yng nghanol cymhlethdodau
cynyddol. Ac yn anffodus, ers y dyddiau cynnar hynny a ddisgrifir yn Actau'r Apostolion, mae eglwys Dduw wedi cael ei thorri a’i hollti sawl gwaith. Mae yna bellach ystod eang o enwadau; pob un yn ceisio bod yn ffyddlon i'r efengyl; pob un yn eu gwahanol ffyrdd wedi'u dylanwadu gan eu dealltwriaeth hwy o'r ysgrythur ac o draddodiad, fel y maen nhw’n eu gweld nhw. Bellach, mae tua 45,000 o wahanol enwadau Cristnogol ledled y byd a'r prif ganghennau yw’r Cristnogion Catholig, Anglicanaidd, Protestannaidd neu anghydffurfiol, Uniongred ac Annibynnol. Hyd yn oed o fewn ein henwad ein hunain, Anglicaniaeth, caiff ffydd a bywyd eu mynegi mewn llu o amrywiol ffyrdd.
Allwn ni ddim mynd yn ôl i'r hyn sy'n ymddangos nawr (o leiaf i mi ar adegau) yn ffordd hapus a syml o fyw ein ffydd a'n disgyblaeth; o fod yn gorff Crist; o fod yr eglwys. Ond allwn ni ddim a ddylen ni ddim colli golwg ar egwyddorion y bywyd Cristnogol a nodir yn y straeon cynnar hynny a gofnodwyd yn ein hysgrythurau. Mae'r darnau o'r Actau rydw i wedi'u darllen y bore yma yn disgrifio'r math o fywydau y cafodd y disgyblion cyntaf hynny eu hysgogi i fyw oherwydd eu ffydd yn pwy oedd Iesu a'r hyn yr oedd Iesu wedi'i wneud. Maen nhw’n disgrifio patrwm o fywyd a oedd yn radical o wahanol i'r cymdogaethau cyfagos; mor wahanol fel bod pobl yn sylwi, yn gwneud sylwadau ac yn cael eu syfrdanu. Ac er mewn rhai ffyrdd, bod y ffordd honno o fyw a bod yn swnio'n hynod o syml, mae'n eithriadol o heriol. Efallai ei fod felly iddyn nhw ym Mhalestina yn y ganrif gyntaf hefyd. Ond mae'n sicr i ni, ddwy ganrif yn ddiweddarach.
Rydyn ni, wrth gwrs, yn ceisio ymroi i dyfu, dysgu a gweddïo gyda'n gilydd, i feithrin ein cymdeithas yng Nghrist ac i dorri bara gyda’n gilydd. Ond os ydyn ni’n onest gyda ni'n hunain, mae tensiynau hyd yn oed yn yr elfennau sylfaenol a hanfodol bwysig hyn o'n bywyd gyda'n gilydd. Mae bod yn un yn rhodd. Dyna ein rhodd yng Nghrist. Fel y mae Sant Paul yn atgoffa'r eglwys yn Galatia a oedd eisoes yn cynnwys pobl a grwpiau na fydden nhw fel arfer yn ymwneud â'i gilydd, ‘Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw.’ Mae pob gwahaniaeth dynol wedi’u chwalu, ‘oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu… etifeddion yn ôl yr addewid’ (Gal 3:28, 29)
Ond mae dysgu sut i fyw hynny, darganfod beth mae'n ei olygu i edrych y tu hwnt i ni’n hunain a'n gwahaniaethau a'n hanghytundebau ein hunain i'r un sy'n galw pob un ohonom, yn ein sancteiddio ac yn ein gwaredu, yn llawer anoddach. Ond dyna’r hyn y mae Crist yn ei orchymyn i ni – i ni garu ein gilydd fel y mae ef yn ein caru ni ac i ddod o hyd i'n hundod ynddo, hyd yn oed yn ein holl amrywiaeth. A phan fyddwn ni'n cael cipolwg ar yr undod hwnnw ac y gallwn ddechrau llawenhau yn yr undod hwnnw, yna mae'n rhodd nid yn unig i ni ond i'r byd ac ar gyfer y byd.
Roedd pawb a gredai gyda'i gilydd, ac roedd ganddyn nhw bopeth yn gyffredin. Unwaith eto, rhywbeth sy'n swnio'n mor syml, ond mewn gwirionedd sy’n anhygoel o heriol. Roeddwn i'n siarad â chwpl o bobl y diwrnod o'r blaen o eglwys yn fy esgobaeth, a oedd yn dweud wrtha i fod pobl yn eu heglwys yn dal i deimlo eu bod yn berchen ar y sedd maen nhw'n eistedd ynddi ac yn cael eu tramgwyddo pan fydd rhywun arall yn dewis eistedd yno. Mae gan eraill eu ffenestr benodol nhw a gwae unrhyw un arall sy'n rhoi blodau ar y sil ffenest honno. Efallai fod hyn yn gwneud i ni chwerthin. Ond mae'r mathau hynny o agweddau yn dal i fod o gwmpas yn ein heglwysi. Mae rhywun yn meddwl tybed beth mae pobl o'r fath yn ei ddeall am eu ffydd yng Nghrist.
Ond dechreuwch chi siarad am arian ac mae'n debyg y gall y rhan fwyaf ohonom ni yn yr ystafell hon ddeall y demtasiwn i fod yn feddiannol ac i ddal gafael yn yr hyn sydd gennym, boed hynny fel unigolion, teuluoedd neu gymunedau eglwysig. Wrth wraidd ein dealltwriaeth o’r Ardaloedd Gweinidogaeth/Cenhadaeth a’r Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol mae'r syniad o rannu. Rhannu mewn addoliad trwy ymuno ag eraill yn eu hadeilad eglwysig. Rhannu'r clerigion a’r Gweinidogion Trwyddedig Lleyg, wrth iddyn nhw weithio gyda'i gilydd fel timau gweinidogaeth ar draws yr Ardaloedd Gweinidogaeth er budd pawb. Rhannu mewn bywyd cyffredin wedi'n rhwymo gyda'n gilydd, nid yn unig gan ffydd, ond yn gyfreithiol mewn llywodraethiant, a thrwy weledigaeth gyffredin o fyw ein ffydd yn ein cymunedau. A rhannu adnoddau – unwaith eto, nid amser a thalentau pobl yn unig, nid dim ond y tebotau a'r tegellau, ond yr arian. Y bwriad, yn sicr yn adroddiad Harris, yw i'r arian ar draws yr eglwysi gael ei gyfuno a'i ddosbarthu mewn ffordd sy'n cefnogi holl eglwysi’r Ardal Weinidogaeth.
Fel y gwyddom, o blentyndod, caiff pob math o reddf ddynol naturiol ei sbarduno wrth i ni rannu a dysgu rhannu. Rhan o'n taith i ddisgyblaeth Gristnogol yw darganfod beth mae'n ei olygu i fod yn agored ac yn hael yn hytrach nag amddiffynnol a hunan-amddiffynnol. Beth sy'n deg? Beth sy'n gyfiawn? Sut allwn ni ddysgu gadael i bethau fynd a pheidio â rhoi gormod o bwys ar ein heiddo a'n nwyddau fel y gallwn ddod o hyd i'r rhyddid yng Nghrist i rannu'r hyn sydd gennym ni? Oherwydd mae ein ffydd yn ein dysgu bod yr hyn sydd gennym yn rhodd, nid yn rhywbeth i’w berchen na dal gafael ynddo, ond rhywbeth i'w rannu a'i ddefnyddio i hyrwyddo gwaith y deyrnas.
Rydyn ni, fel yr Eglwys yng Nghymru, yn sefydliad, ac mae'n anodd dychmygu sut arall y gallen ni drefnu a llywodraethu ein hunain fel talaith; sydd wedi'i gwneud, fel yr ydyn ni, o eglwysi lleol, Ardaloedd Gweinidogaeth ac esgobaethau. Mae'r sefydliad yn darparu fframwaith hanfodol i'n dal ni i gyd gyda'n gilydd fel teulu taleithiol. Ond nid busnes ydyn ni. Mae'n rhaid i ni fod yn fusnes, wrth gwrs, ac rydyn ni wedi elwa'n aruthrol ar ddoethineb ac arferion busnesau a sefydliadau seciwlar, yn enwedig dros y 30 mlynedd diwethaf neu fwy. Rydyn ni wedi gallu dilyn arferion gorau mewn pethau fel diogelu, adnoddau dynol a chyfathrebu ac rydyn ni'n parhau i ddysgu sut i dyfu a datblygu i fod y gorau y gallwn ni fod fel y gall yr Eglwys yng Nghymru ffynnu ledled ein gwlad. Ond yn y bôn, nid busnes ydyn ni.
Dydyn ni ddim yn gangen o'r Gwasanaethau Cymdeithasol chwaith. Rydyn ni'n cael ein galw i wasanaethu ac i ofalu, wrth gwrs. Mae'r alwad i ymateb i anghenion dynol trwy wasanaeth cariadus wedi'i ymwreiddio ym mhum nod cenhadaeth y Cymundeb Anglicanaidd. Mae banciau bwyd, boreau coffi, clybiau cinio a chanolfannau clyd i gyd yn ffyrdd pwysig o fyw cariad Duw yn ein cymunedau. Mae gweithio yn ein hysgolion, ein cartrefi gofal a phreswyl, gweithio mewn partneriaeth â'n harweinwyr dinesig a gwleidyddol, ymuno â sefydliadau eraill i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymunedau, i gyd yn rhan o'n bywyd fel dilynwyr Iesu.
Ond wnaeth Iesu ddim o’n comisiynu ni i fynd allan a datrys holl broblemau'r byd. Fe’n comisiynodd ni i fynd i wneud disgyblion; i rannu a byw newyddion da Iesu yn y fath fodd fel bod eraill yn cael eu denu ato ac yn dod i adnabod ei gariad achubol drostyn nhw eu hunain. Ydy, mae
ein gwaith allan yn y cymunedau yn bwysig. Ond ein prif dasg - ein tasg bwysicaf - yw rhannu newyddion da Iesu Grist. Oherwydd mae adnabod Iesu yn newid bywyd. Dyna sy'n trawsnewid bywydau pobl; fel rydyn ni wedi'i ddarganfod ac yn parhau i'w ddarganfod wrth i ni deithio gyda'n gilydd mewn ffydd. A dyna'r rhodd, y trysor sydd gennym ni i'w gynnig i'r byd wrth i Dduw ein defnyddio i ddisgleirio gyda goleuni ei gariad.
Rydyn ni'n gwneud hyn yn ôl y ffordd rydyn ni'n byw. Gallwn ni siarad am Iesu, pregethu am Iesu, addysgu am Iesu gymaint ag y dymunwn, ond os nad yw ein bywyd gyda'n gilydd yn adlewyrchu'r trawsnewidiad radical hwnnw, yna mae'r cyfan mewn perygl o swnio'n eithaf gwag, fel yr efydd swnllyd a'r symbal aflafar y mae Paul yn sôn amdanyn nhw yn ei dystiolaeth wych at gariad ym mhennod 13 o'i lythyr cyntaf at yr eglwys yng Nghorinth.
Rydyn ni i fod yn halen, yn oleuni ac yn furum, gan wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y mae Duw wedi ein gosod ynddyn nhw, gan fyw mewn ffordd sy'n unigryw ac yn rhyfeddol, gan fod yn gorff Crist sy'n dangos cefnogaeth y naill at y llall a rhyng-ddibyniaeth.
Ymhlith y papurau niferus sy'n dod trwy fy nrws bob penwythnos y mae'r Tablet; cylchgrawn rhyngwladol yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Mae erthygl yn un o rifynnau mis Awst y cylchgrawn hwnnw yn rhoi disgrifiad pwerus iawn o beth yw burum a'r hyn y mae'n ei wneud ac felly pa effaith y mae'r eglwys yn cael ei chael yn y byd. Cyd-destun yr erthygl oedd yr eglwys ym Mhalesteina/Israel, a dyna pam yr oedd mor drawiadol, ac roedd yr awdur yn offeiriad Jeswit; mab Iddewon Almaenig ac a anwyd yn Ne Affrica. Mae'n cyferbynnu'r delweddau o goncwest a burum wrth fyfyrio ar alwedigaeth y Cristion. Mae concwest yn sôn am bŵer, rheolaeth a buddugoliaeth dros yr hyn a welwn fel grymoedd gwrthwynebol. Fodd bynnag, mae burum yn awgrymu trawsnewid trwy integreiddio yn hytrach na dominyddu. Yn ôl yr awdur, mae bod yn furum yn rhaglen weithredu. Mae'n golygu gwrthsefyll y demtasiwn i aros yn ddiogel: i hunansyllu, i wahanu ein hunain oddi wrth eraill fel ymateb i ofn a chreu cynghreiriau yn y gobaith o orchfygu. Yn hytrach, mae'n golygu ildio’r hunan a hunan-ddiddordeb fel y gall bywyd yr Iesu atgyfodedig ddisgleirio trwyddom ni a newid y byd.
Halen y ddaear. Goleuni'r byd. Burum yn y cymunedau rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddyn nhw. Yma i wneud gwahaniaeth, yn union oherwydd sut rydyn ni'n byw gyda'n gilydd fel Cristnogion.
Yn ystod y dyddiau nesaf, mae gennym ni gyfle i fyfyrio'n fwy ymarferol ar yr hyn y mae hyn yn ei olygu mewn perthynas â nifer o faterion arwyddocaol sydd ar ein hagenda.
Mewn perthynas â'r dde eithafol a sut rydyn ni'n ymateb yn dda i'r rhai a fyddai'n ceisio dehongli ein ffydd mewn ffordd sy'n difrïo ac yn allgáu eraill. (Eitem 14)
Mewn perthynas ag addysg a'n gwaith mewn ysgolion; gan sicrhau bod ein plant yn deall natur radical ein ffydd a'r gwahaniaeth y gall adnabod Crist ei wneud i unigolion a chymunedau. (Eitem 7)
Mae ein trafodaeth ar bapur Corff y Cynrychiolwyr yn gyfle gwych i ni ddod o hyd i ffyrdd o ddal gafael ar y gwerthoedd hynny a ddisgrifir yn y darnau o'r Actau oherwydd, gyda'n gilydd, rydyn ni'n ceisio dirnad sut orau i stiwardio'r adnoddau a roddwyd gan Dduw sydd gennym i gefnogi gwaith yr eglwys. Gwerthoedd cydweithio, rhannu a chefnogaeth er budd pawb. (Eitem 9)
Yn yr un modd, bydd y cyfraniad at waith USPG yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y gwerthoedd hynny wrth gofleidio a chefnogi'r cymunedau tlotaf sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf, nid yn unig yng Nghymru a'r DU, ond ledled y byd. Rydyn ni'n un gyda nhw, yn blant i’r un tad nefol, dim llai nag yr ydyn ni'n un â'n gilydd, yma yn yr ystafell hon. (Eitem 8)
Bydd ein gwaith yfory ar y siarter urddas a'r pecyn hyfforddi cysylltiedig yn ein galluogi ac yn ein harfogi ni i gyd, ar bob lefel o fywyd ein heglwys, i drin ein gilydd â pharch ac i fyw yn fwy effeithiol y ffordd o fyw radical yr ydyn ni'n darllen amdani yn Actau'r Apostolion. (Eitem 13)
A bydd y sesiwn ar y rhwydwaith Arloesi ac Efengylu yn mynd â ni'n ôl i galon pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n cael ein galw i'w wneud. (Eitem 15)
Yn y cyfan, gadewch i'r darnau hynny o'r Actau fod yn dempled, yn safon, yn batrwm ac yn uchelgais i ni.
‘Yr oedd y lliaws credinwyr o un galon ac enaid, ac ni fyddai neb yn dweud am ddim o'i feddiannau mai ei eiddo ef ei hun ydoedd, ond yr oedd ganddynt bopeth yn gyffredin.’
Boed i Dduw fendithio ein hamser gyda'n gilydd a thanio ynom yr awydd i fyw fel un, er mwyn yr eglwys a'r byd yr ydyn ni'n cael ein galw i'w wasanaethu.
Y Parchedichaf Cherry Vann, Archesgob Cymru

