English

AdobeStock_356959684.jpeg

Mae Offeryn Ôl Troed Ynni, cyfrifiannell carbon ar-lein yr Eglwys yng Nghymru, bellach ar agor i fewnbynnu data ynni 2024 eich eglwys.

Yn gyflym ac yn hawdd ei ddefnyddio, bydd yr offeryn ar-lein yn cyfrifo ôl troed carbon eich eglwys ar unwaith ac yn eich helpu i ofalu am greadigaeth Duw.

Dim ond gwybodaeth sydd ei hangen arnoch am ddefnydd ynni eich eglwys dros y flwyddyn galendr flaenorol, eich cyflenwr ynni a’r math o dariff ynni – yr holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn eich biliau ynni ar gyfer 2024.

Bydd gwybod faint o garbon y mae eich eglwys yn ei gynhyrchu bob blwyddyn yn eich helpu i ddeall eich defnydd o ynni, gosod targedau lleihau blwyddyn ar ôl blwyddyn a chynllunio ar gyfer effeithlonrwydd ynni. Dros amser, byddwch yn gallu asesu eich cynnydd, ac efallai y byddwch hefyd yn dewis gwrthbwyso unrhyw allyriadau gweddilliol unwaith y byddwch wedi lleihau eich carbon a rhoi unrhyw fesurau effeithlonrwydd ar waith.

Eleni mae hyd yn oed yn haws cymharu eich defnydd o ynni â blynyddoedd blaenorol gan fod y dudalen canlyniadau wedi'i diweddaru i gynnwys cymhariaeth â'r allyriadau yn y flwyddyn flaenorol yn ogystal ag allyriadau yn ôl y math o ynni.

I ddefnyddio’r teclyn am y tro cyntaf, bydd angen cod eglwys unigryw arnoch sydd ar gael o swyddfa eich esgobaeth.

“Mae gwybod ôl troed carbon eich eglwys yn hanfodol er mwyn gosod gwaelodlin i chi gynllunio gweithredu hinsawdd priodol ar lefel leol, tra’n gwneud cyfraniad hanfodol i daith yr Eglwys yng Nghymru i Sero Net”, meddai’r Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd, Julia Edwards.

Mwy o wybodaeth am y Pecyn Cymorth Ôl-troed Ynni