English

Mae Arweinwyr Ffydd yng Nghymru wedi ysgrifennu llythyr agored ar y cyd at Aelodau'r Senedd:

Annwyl Aelod o’r Senedd,

Ysgrifennwn atoch wrth i’r Senedd newydd gychwyn ar ei gwaith, er mwyn rhoi sicrwydd i chi ein bod ni’n gweddïo drosoch ar yr adeg bwysig hon. Fel Arweinwyr Ffydd, rydym yn gwybod ychydig am y gost bersonol sy’n gysylltiedig â gwasanaeth cyhoeddus, a diolchwn i chi am eich parodrwydd a’ch dyhead i weithio dros les cyffredin holl bobl Cymru.

Rydym yn ymwybodol bod hwn yn ‘gyfnod newydd’ i’n cenedl a bod y Senedd yn dechrau ei gwaith o’r newydd mewn adeg o densiwn sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig. Mae nifer yn ein cymunedau yn byw gyda rhyw ofn dros eu lles personol ac yn enwedig lles eu plant. Pwysleisiwn urddas cynhenid pob unigolyn a chredwn y dylid trin pawb â’r parch mwyaf, gan gydnabod eu rhyddid o ran crefydd fel y gall pawb arfer eu cred mewn tangnefedd a llonyddwch. Mae’n rhaid ymwrthod â gwrthsemitiaeth, rhagfarn yn erbyn Hindwiaid, Islamoffobia, a rhagfarn ar sail crefydd neu ethnigrwydd.

Gwneir cyfraniad aruthrol gan gymunedau ffydd, gan helpu cymaint ar draws ein cenedl, o ran addysg, gofal iechyd a thrwy ystod eang o wasanaethau a phrosiectau sy’n gwasanaethu rhai o’r bobl fwyaf anghenus. Gweithreda addoldai fel ‘hybiau’ pwysig sy’n estyn allan i’r gymuned ac integreiddio. Rydym yn falch o gael gweithio felly ac ymrwymwn i sicrhau y bydd yn parhau ac yn tyfu.

Edrychwn ymlaen at y cyfleoedd a ddaw i rannu gyda chi y stori hon am wasanaeth cyhoeddus, gan ganolbwyntio’n arbennig ar sut y’i gweithredir yn lleol. Yn ogystal, disgwyliwn yn arw at ddyfnhau ein perthynas o gydweithredu, cyd-dealltwriaeth a chydnabyddiaeth fel y cawn ni oll gydweithio er lles pawb yng Nghymru.

Yr eiddoch yn gywir,

  • Yr Archesgob Mark O’Toole Archesgob Metropolitan Caerdydd-Mynyw, yr Eglwys Gatholig
  • Yr Archesgob Cherry Vann Esgob Mynwy, yr Eglwys yng Nghymru
  • Y Parch. Dyfrig Rees Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
  • Y Parch. Ganon Tim Rowlands Y Gynghrair Efengylaidd yng Nghymru
  • Y Rabbi Michoel Rose Synagog Unedig Caerdydd
  • Laurence Kahn Cyngor Cynrychiolwyr yr Iddewon yn Ne Cymru
  • Dr Abdul-Azim Ahmed Cyngor Mwslimaidd Cymru
  • Imam Usman Manan Y Gymuned Fwslimaidd Ahmadiyya yng Nghymru
  • Gurmit Singh Randhawa MBE Cyngor Siciaid Cymru
  • Dr Sakti Guha Niyogi Cyngor Hindwiaid Cymru
  • Radhika Kadaba Cadeirydd Cyngor Hindwiaid Cymru
  • Dr Cynan Llwyd Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
  • Kate McColgan Cadeirydd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
  • Katie Gilmour Cynrychiolydd Rhyng-ffydd Eglwys Iesu Grist Saint y Dyddiau Diwethaf
  • Corinne Hainsworth Cynrychiolydd Rhyng-ffydd y Gymuned Bahá’í
  • Marilyn Priday Cynrychiolydd Rhyng-ffydd ac Ymddiriedolwraig Tŷ’r Gymuned, Casnewydd