Ar 17 Mehefin 2026 etholodd Coleg Ethol yr Eglwys yng Nghymru y Tra Pharchedig Ddr Manon Ceridwen James, Deon Bangor, yn Esgob Bangor.
Mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud hi’n ofynnol bod pob penodiad esgobol trwy etholiad yn cael ei gadarnhau gan gyfarfod esgobion yn yr esgobaeth dan sylw mewn Synod Sanctaidd. Dyma sydd i hysbysu y bydd yr esgobion yn cyfarfod i gadarnhau ethol Manon Ceridwen James yn Esgob Bangor yn y Synod Sanctaidd yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd, Stow Hill, Casnewydd NP20 4ED am 6.15pm ddydd Mercher 9 Medi 2026.
Cyfarfod cyhoeddus yw hwn ac os hoffai unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru dynnu sylw’r esgobion at unrhyw fater ynglŷn â’r etholiad esgobol hwn, mae croeso iddynt fynychu’r cyfarfod yn bersonol.
Y Parchedicaf Cherry Vann
Archesgob Cymru



