English

Mae cyhoeddi Cod Ymarfer Drafft yr EHRC hon wedi achosi poen a phryder O'r newydd i lawer o bobl drawsryweddol. Yr ydym am ymateb yn glir.

Flwyddyn yn 01, yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys, dywedasom fod pob bod dynol yn blentyn gwerthfawr i Dduw, yn haeddu urddas a pharch. Yr ydym yn dweud hynny eto heddiw - yn ddiamod.

Mae'r Cod yn dweud wrth sefydliadau beth y mae l r gyfraith yn ei ganiatau. Nid yw l n dweud wrthym pwy ydym fel Corff Crist. Nid ydym wedi ein galw i leiafswm cyfreithiol o groeso. Yr ydym wedi ein galw i groeso radical yr hwn a geisiai'r rhai a eithiwyd a i r rhai a anwybyddwyd. *Ni fydd Eglwys yng Nghymru yn defnyddio eithriadau cyfraith cydraddoldeb i eithrio pobl drawsryweddol o r n haddoliad, ein sacramentau, ein gofal bugeiliol, na'n bywyd cyffredin.*

Yr ydym yn gofyn i'n holl eglwysi fod yn noddfeydd go iawn i bobl drawsryweddol a l u teuluoedd, yn enwedig yn awr. Ac yr ydym yn galw ar gyrff cyhoeddus i ddilyn ffordd ymlaen syn cynnal urddas pawb, yn hytrach na defnyddio amddiffyn rhai hawliau fel cyfiawnhad dros danseilio eraill.

I bobl drawsryweddol yng Nghymru, yn ein cynulleidfaoedd ac syr n gwasanaethu Duw yn ffyddlon yn yr Eglwys: fei ch adwaenir. Fe'ch cerir. Mae croeso i chi yma, fel yr ydych, bob amser.

Meinc Esgobion Eglwys yng Nghymru

Y Parchedicaf Cherry Vann, Esgob Mynwy, Archesgob Cymru

Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy;

Y Gwir Barchedig John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu;

Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf;

Y Gwir Barchedig Dorrien Davies, Esgob Tyddewi;

Yr ydym yn cadarnhau bod pob person trawsryweddoL yn blentyn gwerthfawr i Dduw, ac yn rhan annwyl o fywyd yr Eglwys hon.