English

Bydd cyfansoddwr y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm Tanau’r Lloer, sydd wedi’i henwebu am wobr BAFTA Cymru, yn cyflwyno gwaith corawl newydd am y tro cyntaf yng Nghadeirlan Bangor yn ystod penwythnos sy’n nodi 800 mlynedd ers marwolaeth Sant Ffransis o Assisi.

Caiff Mab a’n Rhodded gan y cyfansoddwr o Ynys Môn, Gareth Glyn, ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod gwasanaeth Transitus arbennig yn y Gadeirlan am 5pm ddydd Sadwrn 3 Hydref 2026. Caiff Nunc Dimittis newydd gan Ellen Davies, sydd hefyd yn gyfansoddwraig o Ynys Môn, ei berfformio am y tro cyntaf. Côr Kana fydd yn perfformio’r ddau waith, gyda’r sielydd Dr Anastasia Zaponidou.

Gareth a gyfansoddodd y gerddoriaeth ar gyfer y ffilm opera Gymraeg Tanau’r Lloer (Fires of the Moon), a ddarlledwyd ar Channel 4 ym mis Mawrth. Mae’r ffilm, sy’n cynnwys yr hyn a ddisgrifiwyd gan Channel 4 fel “cerddoriaeth drawiadol o hardd”, wedi’i henwebu am wobr BAFTA Cymru 2026 yn y categori Ffilm Nodwedd/Ffilm Deledu.

Bydd rhaglen dydd Sadwrn yn dechrau gyda Diwrnod Tawel dan arweiniad y Brawd John SSF ac yn gorffen gyda gwasanaeth y Transitus yng Nghadeirlan Bangor.

Mae’r Transitus yn wasanaeth Ffransisgaidd traddodiadol sy’n cofio oriau olaf Sant Ffransis a’i ymadawiad i fywyd tragwyddol. Adroddir y stori drwy’r Ysgrythur, gweddi, cerddoriaeth ac adrodd straeon.

Mae croeso i bawb i’r gwasanaeth a chaiff ei ffrydio’n fyw ar sianel YouTube Cadeirlan Bangor.

Bydd y digwyddiadau’n parhau ar Ynys Môn ddydd Sul 4 Hydref gyda phererindod ar thema Ffransisgaidd o Lan-faes i Fiwmares. Bydd y daith dywys yn dechrau am 9.30am ac yn gorffen yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, Biwmares, am 11am.

Ar hyd y ffordd, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn dysgu am gysylltiadau hanesyddol a chyfoes yr ardal â Sant Ffransis. Mae’r rhain yn cynnwys safle’r fynachlog Ffransisgaidd ganoloesol yn Llan-faes a’r stori y tu ôl i Mab a’n Rhodded.

Daw’r penwythnos i ben gydag Ewcharist ar thema Sant Ffransis yn Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas am 11am.

Mynach a phregethwr o’r drydedd ganrif ar ddeg oedd Sant Ffransis. Ysbrydolodd ei fywyd o symlrwydd, gweddi a gwasanaeth y mudiad Ffransisgaidd ledled y byd. Fe’i cofir am ei ofal dros bobl sy’n byw mewn tlodi, ei waith dros heddwch a’i gred y dylai Cristnogion drin yr holl greadigaeth â thosturi.

Dywedodd y trefnydd, Wendy Davies: “Dim ond fel cerflun mewn gardd, wedi’i amgylchynu gan adar ac anifeiliaid, y mae llawer o bobl yn adnabod Sant Ffransis. Ond roedd yn berson go iawn ac mae ei fywyd yn dal i’n herio i ymddwyn â gostyngeiddrwydd, cariad a llawenydd, ac i ofalu am ein gilydd a’r holl greadigaeth.

“Mae’r ffordd Ffransisgaidd yn ymwneud â byw’r Efengyl drwy weddi a gweithredu, gan ddefnyddio’r doniau y mae Duw wedi’u rhoi i ni i wasanaethu eraill a gweithio dros heddwch. Gobeithiwn y bydd y penwythnos hwn yn helpu cenhedlaeth newydd i ddod i adnabod Ffransis ac i gael ei hysbrydoli gan ei esiampl.”

Mae Wendy yn aelod o Drydedd Urdd Cymdeithas Sant Ffransis (TSSF). Mae’r Drydedd Urdd yn rhan o’r teulu Ffransisgaidd Anglicanaidd ac mae’n cynnwys pobl leyg ac ordeiniedig sy’n dilyn egwyddorion Ffransisgaidd wrth barhau â’u bywydau, eu gwaith a’u gweinidogaeth bob dydd.

Gellir archebu lleoedd ar gyfer digwyddiadau’r penwythnos drwy Eventbrite.

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: