English

Daeth ffigurau blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth a gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru ynghyd yng Nghadeirlan Llandaf ar 13 Hydref ar gyfer Gwasanaeth Cysegru ecwmenaidd cenedlaethol ar gyfer y Seithfed Senedd.

Cynhaliwyd y gwasanaeth ddeuddydd cyn agoriad swyddogol seithfed sesiwn Senedd Cymru. Roedd yn gyfle i eglwysi Cymru – fel y’u cynrychiolir gan Cytûn (Eglwysi Ynghyd yng Nghymru) – weddïo dros, i gefnogi ac i fendithio’r rhai sy’n gweithio ym myd democratiaeth a gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Gwahoddwyd gwleidyddion o bob plaid sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd i’r digwyddiad, lle traddodwyd pregeth gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf Cherry Vann. Roedd y gwasanaeth hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan bartneriaid o wahanol grefyddau.

Wrth sôn am y gwasanaeth, dywedodd yr Archesgob Cherry: "Wrth i dymor newydd y Senedd ddechrau, mae’n briodol ein bod yn dod ynghyd mewn gweddi, gan fyfyrio ar y cyfrifoldebau a ymddiriedwyd i’r rhai sy’n gwasanaethu pobl Cymru. Mae’r penderfyniadau a wneir gan ein cynrychiolwyr etholedig yn cael effaith ddofn ar fywydau unigolion, ar deuluoedd ac ar gymunedau ledled ein cenedl. Mae’r gwasanaeth heddiw yng Nghadeirlan Llandaf yn gyfle i weddïo dros holl Aelodau’r Senedd, fel y cânt eu harwain gan ddoethineb, uniondeb a thosturi yn eu gwaith, ac y byddant bob amser yn cadw urddas pob person a lles cyffredin ein cymdeithas yn ganolog i’w meddyliau. Gweddïaf y bydd tymor newydd y Senedd yn cael ei nodweddu gan ysbryd o wasanaeth, deialog adeiladol a gobaith o’r newydd i bobl Cymru."

Cyn y gwasanaeth, cafwyd cyfnod o fyfyrio a cherddoriaeth gyda chyfranwyr yn cynnwys: Côr Merched Plastaf, a enillodd ddwy wobr yn Eisteddfod 2026; Mared Pugh-Evans, Telynores Swyddogol Ei Fawrhydi y Brenin, a chôr Cadeirlan Llandaf. Yn ystod y gwasanaeth, cafwyd darlleniadau gan Huw Irranca-Davies AS, Llywydd y Senedd, a Sam Rowlands AS, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Ffydd.

Bendithiwyd y Senedd gan arweinwyr ecwmenaidd a chynrychiolwyr cymunedau ffydd yng Nghymru; a chyflwynwyd geiriau o gymeradwyaeth a bendith gan y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf; y Parchedicaf Mark O’Toole, Archesgob Catholig Rhufeinig Caerdydd-Mynyw; a’r Gwir Barchedig Dorrien Davies, Deon y Gaplaniaeth Frenhinol yng Nghymru ac Esgob Tyddewi.

Dywedodd Cynan Llwyd, Ysgrifennydd Cyffredinol Cytûn, oedd hefyd yn bresennol: “Mae’r Gwasanaeth Cysegru yn gyfle i ddiolch am y rhai sy’n gwasanaethu Cymru ym mywyd cyhoeddus ac i weddïo dros y Seithfed Senedd cyn ei hagor yn swyddogol. Ynghyd â’n partneriaid rhyng-ffydd, gobeithiwn y bydd yn foment o ymrwymiad ar y cyd i ddoethineb, tosturi a lles pob cymuned yng Nghymru. Mae gwasanaethu pobl Cymru yn gyfrifoldeb sy’n haeddu diolchgarwch, anogaeth a gweddi, felly gobeithiwn y bydd aelodau’r Senedd yn teimlo eu bod yn cael eu hannog a’u cefnogi gan y gwasanaeth hwn. Edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach â’r Senedd wrth i ni oll ymdrechu i wasanaethu pob cymuned yng Nghymru.”

Dywedodd Deon Cadeirlan Llandaf, y Tra Pharchedig Ddr Jason Bray: “Roeddem yn falch iawn o groesawu Aelodau’r Senedd a’u staff i Cadeirlan Llandaf heddiw. Bendithiasom ymdrechion y Seithfed Senedd gan weddïo dros bawb sy’n gweithio yno er lles pawb. Gobeithiwn y bydd y Senedd yn teimlo sicrwydd o’n gweddïau wrth iddynt symud ymlaen ac ymdrechu i lywio ein byd cymhleth.”

Bydd y Senedd yn agor ddydd Iau 15 Hydref. Ymunwch â ni i weddïo dros ei thymor:

Dduw cyfiawnder a heddwch, 

Duw'r dyffrynnoedd a'r mynyddoedd, 

ein dinasoedd a'n cymunedau, 

rydym yn diolchwn i ti am bobl Cymru 

ac am y fraint a'r cyfrifoldeb o wasanaethu'r lles cyffredin. 

Wrth i'r Senedd hon ddechrau pennod newydd ym mywyd ein cenedl, 

bendithia bawb sydd wedi'u hethol a'u penodi i wasanaethu yma. 

Rho iddynt ddoethineb yn eu hystyriaethau, 

uniondeb yn eu penderfyniadau, 

dewrder mewn cyfnodau anodd, 

a gras i wrando ar leisiau sy'n hawdd eu hanwybyddu. 

Bydded iddynt geisio cyfiawnder heb ragfarn, 

heddwch heb hunanfodlonrwydd, 

ffyniant heb eithrio, 

a chynnydd heb anghofio'r rhai mewn caledi. 

Cynorthwyo ni oll i gofio bod awdurdod yn cael ei ymddiried er mwyn gwasanaeth,

a bod mesur ein bywyd cyffredin

i'w gael yn y ffordd rydym yn trin ein gilydd, 

yn enwedig y tlotaf, y gwannaf a'r mwyaf bregus.

Bendithia'r Senedd hon, 

bendithia bobl Cymru, 

a gwna ni, yn ein holl amrywiaeth, 

yn bobl sy'n dilyn gwirionedd, cyfiawnder a heddwch. 

Trwy Grist ein Harglwydd. 

Amen.