English

Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn sefydlu Grŵp Cyflawni Croesawu Anabledd i helpu i wella’r croeso a’r cynhwysiant ac i gynyddu cyfranogiad pobl anabl ym mhob agwedd ar fywyd yr Eglwys.

Rydym am i’r gwaith hwn gael ei lunio gan bobl â phrofiad bywyd, yn ogystal â chan bobl sy’n angerddol dros helpu’r Eglwys i ddod yn fwy hygyrch, croesawgar a chynhwysol i bobl anabl.

Beth ydym yn ei olygu wrth anabledd?

Yn aml, caiff anabledd ei ddiffinio fel amhariad corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, ar gyfer y prosiect hwn, rydym am ystyried profiad bywyd mewn ystyr ehangach.

Efallai eich bod yn niwrowahanol, yn byw gyda chyflwr iechyd hirdymor, yn wynebu heriau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl neu heneiddio, neu’n gofalu am rywun sydd ag un neu ragor o’r profiadau hyn. Efallai nad ydych yn ystyried eich hun yn anabl, ond eich bod serch hynny yn wynebu rhai o’r rhwystrau hyn. Efallai hefyd fod gennych wybodaeth neu arbenigedd proffesiynol perthnasol.

Beth bynnag fo’ch profiad, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Cymerwch ran

Rydym yn arbennig o awyddus i syniadau, blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith hwn ddeillio o bobl â phrofiad bywyd. Rydym am wrando ar y rhai sy’n wynebu rhwystrau a dysgu ganddynt, yn ogystal â’r rhai sydd â syniadau ynghylch sut y gall yr Eglwys yng Nghymru ddod yn fwy croesawgar a hygyrch i bobl anabl.

Mae llawer o ffyrdd o gyfrannu.

Ochr yn ochr â’r prif Grŵp Cyflawni Croesawu Anabledd, rydym yn bwriadu sefydlu ystod o Grwpiau Cynghori er mwyn sicrhau bod amrywiaeth eang o brofiadau a safbwyntiau yn helpu i lywio’r gwaith. Gallai’r rhain gynnwys:

  • Anabledd corfforol
  • Anabledd synhwyraidd
  • Niwrowahaniaeth
  • Iechyd meddwl
  • Rhieni a gofalwyr

Efallai yr hoffech gael eich ystyried i’ch penodi’n aelod o’r Grŵp Cyflawni, cyfrannu at un neu ragor o’r Grwpiau Cynghori, neu rannu eich profiadau a’ch syniadau yn unig wrth i’r prosiect ddatblygu.

P’un a oes gennych brofiad bywyd, arbenigedd proffesiynol neu awydd i helpu i greu Eglwys fwy croesawgar, bydd eich cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Sut i fynegi diddordeb

Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith mewn unrhyw ffordd, cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb.

Bydd Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol yn ystyried pob datganiad o ddiddordeb ac yn penodi aelodau’r Grŵp Cyflawni. Y Grŵp Cyflawni fydd yn llywio’r gwaith. Bydd aelodaeth y Grŵp yn adlewyrchu ystod eang o brofiadau bywyd, sgiliau a safbwyntiau, a bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r esgobaethau. Bydd mynegi diddordeb hefyd yn ein helpu wrth inni gynllunio’r Grwpiau Cynghori, a fydd yn agored i bawb.

Rhaid i ddatganiadau o ddiddordeb ddod i law erbyn dydd Sul 16 Awst 2026.

Helpwch ni i gychwyn ar y gwaith

Mae hwn yn gyfle i helpu i lunio’r ffordd y daw’r Eglwys yng Nghymru yn fwy croesawgar, cynhwysol a hygyrch i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Rydym yn awyddus i sefydlu’r Grŵp Cyflawni a’r Grwpiau Cynghori cyn gynted â phosibl fel y gall y gwaith hwn ddechrau gydag egni, ymdeimlad o frys a diben. Os oes gennych brofiad bywyd, mewnwelediad, arbenigedd neu angerdd dros helpu eraill i deimlo eu bod yn cael eu croesawu’n llawnach i fywyd yr Eglwys, rydym yn eich annog i fynegi eich diddordeb yn awr.

Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn siarad am eich profiad ar eich rhan. Gall eich llais, eich safbwynt a’ch syniadau helpu’r Grŵp Cyflawni i lunio newid ystyrlon. Byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o’r gwaith hwn.

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp Cyflawni ddydd Mawrth 8 Medi, a chynhelir cyfarfodydd cyntaf y Grwpiau Cynghori yn ddiweddarach ym mis Medi.

Mae gan y Grŵp Cyflawni Croesawu Anabledd gylch gwaith clir ac amser-gyfyngedig, a bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau a’i argymhellion i’r Corff Llywodraethol ym mis Medi 2027.

Cyswllt: DisabilityWelcome@cinw.org.uk