English

Ers Sul y Cofio y llynedd, mae’r byd wedi gweld lefel uwch o drais. Mae rhyfeloedd a gwrthdaro yn parhau i rwygo trwy Affrica; mae ymosodiad Rwsia ar yr Wcráin wedi para’n hirach na’r Rhyfel Byd Cyntaf; ac mae’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol wedi parhau a dwysáu, fel y mae’r rhyfel yn Iran.

Am y rhesymau hyn, a mwy, mae Sul y Cofio eleni yn teimlo’n ddwysach ac yn fwy teimladwy nag erioed. Mae gweddïau dros heddwch, a’n diolchgarwch am bawb a fu farw wrth geisio heddwch, yn tarddu eleni o rywle dyfnach eleni.  Gallwn adleisio geiriau’r Salmydd sy’n galw, “Pa hyd, O Arglwydd?” Ond clywn hefyd yr addewid y mai am noson yr erys tristwch ond daw llawenydd yn y bore. Felly, rydym yn gwylio, yn hiraethu ac yn gobeithio am y bore. Wrth i ni glywed adleisiau’r ‘Caniad Olaf’ yn atseinio’n drist yn yr awyr, rydym yn ymdrechu i glywed y ‘reveille’ – y signal sy’n ein hatgoffa nad yw rhyfel yn para am byth, y gall gwrthdaro ddod i ben, ac nad gwlad anhysbys yw heddwch, ond gwlad yr ydym wedi bod ynddi o’r blaen ac yr ydym yn gweithio i ddychwelyd iddi.

Rydym yn cofio pawb sy’n ymladd ac a fu farw dros heddwch, pawb y mae eu bywydau wedi cael eu heffeithio, a’r rhai sy’n parhau i fyw gyda thrawma; ac rydym yn ymrwymo ein hunain unwaith eto i ymdrechu dros heddwch a lles holl bobloedd y byd.