English

The Revd Nia Catrin Williams

Mae’r Parchedig Nia Catrin Williams wedi’i phenodi’n Ddeon Cadeirlan Bangor ac yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Deiniol. Bydd yn dechrau yn y swydd ym mis Ionawr 2027.

Ar hyn o bryd, Nia yw Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Beuno Sant Uwch Gwyrfai, ar ôl dychwelyd i Esgobaeth Bangor yn gynharach eleni wedi gwasanaethu fel caplan yn y Lluoedd Arfog. Mae’n olynu’r Gwir Barchedig Manon Ceridwen James, sydd bellach yn Esgob Bangor.

Mae Nia yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad mewn gweinidogaeth ordeiniedig. Bu’n Ganon dros Genhadaeth yng Nghadeirlan Bangor rhwng 2012 a 2015.

Daw ei phenodiad wrth i’r Gadeirlan barhau i fynd i’r afael â’r pryderon a godwyd mewn dau adolygiad diogelu a gynhaliwyd yn 2024. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Esgob Manon a thîm y Gadeirlan wedi gweithio i fynd i’r afael â’r pryderon hynny a sicrhau sefydlogrwydd ym mywyd y Gadeirlan. Bydd Nia yn parhau â’r gwaith hwn, gan gefnogi staff a chynulleidfaoedd, ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder, a datblygu gweinidogaeth y Gadeirlan yn y ddinas a’r esgobaeth ehangach.

Dywedodd yr Esgob Manon, “Mae doniau Nia yn y weinidogaeth a’i phrofiad o arwain yn golygu ei bod mewn sefyllfa arbennig o dda i arwain y Gadeirlan a Bro Deiniol i’r bennod nesaf yn eu bywyd. Yn ogystal â’i phrofiad fel offeiriad plwyf, mae ei gwasanaeth fel Caplan yn y Fyddin wedi rhoi iddi arbenigedd helaeth mewn gofal bugeiliol, datblygu timau a datrys anghydfodau, ynghyd â’r gallu i arwain gydag empathi a gwytnwch drwy gyfnodau o her a newid.

“Bydd ei chreadigrwydd, ei hegni a’i phrofiad helaeth o weinidogaethu gyda phlant a phobl ifanc yn datblygu ymhellach faes sy’n ganolog i genhadaeth a gweinidogaeth y Gadeirlan.”

Dywedodd Nia, “Mae’n fraint aruthrol cael fy mhenodi’n Ddeon Cadeirlan Bangor, ac rwy’n edrych ymlaen at ddychwelyd ar ôl gwasanaethu fel Canon dros Genhadaeth a Chaplan y Brifysgol dros ddegawd yn ôl.

“Gan adeiladu ar y gwaith diwygio ac adnewyddu y mae’r Esgob Manon a thimau’r esgobaeth a’r Gadeirlan eisoes wedi’i wneud, hoffwn barhau i ddatblygu’r Gadeirlan yn le o weddi a chroeso i bobl y ddinas, a hefyd yn fam eglwys yr esgobaeth. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd fel cymuned i dyfu’n ddisgyblion a helpu i ddod â’r genhedlaeth nesaf at Grist.”

Ordeiniwyd Nia yn offeiriad yng Nghadeirlan Llanelwy yn 1999, a dechreuodd ei gweinidogaeth fel Curad Cynorthwyol ym Mywoliaeth Reithorol Llanrhos. Bu wedyn yn gwasanaethu ym Mrynymaen a Bae Colwyn, gan weithio hefyd fel Swyddog Pobl Dan 25 oed Esgobaeth Llanelwy, cyn dod yn Ficer Tywyn a Llansansiôr.

Ymunodd ag Esgobaeth Bangor yn 2008 fel Ficer Glanogwen a Llanllechid gyda Mynydd Llandegai, ac yn ddiweddarach bu’n Ddeon Ardal Ogwen. Yn ystod ei chyfnod fel Canon dros Genhadaeth yng Nghadeirlan Bangor, bu hefyd yn Gaplan Anglicanaidd Prifysgol Bangor ac yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid yr Esgobaeth. Bu’n gwirfoddoli gyda Bugeiliaid Stryd Bangor a Llu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Yn 2016, ymunodd Nia ag Adran Caplaniaid y Fyddin Frenhinol. Yn ystod ei gwasanaeth, bu wedi’i lleoli yn y DU a Gwlad Belg, a bu’n rhan o ymgyrchoedd gyda’r Cenhedloedd Unedig a NATO. Cyn dychwelyd i’r esgobaeth yn 2025, bu’n gwasanaethu yng Nghyprus fel Caplan Wrth Gefn gyda’r Llu Awyr Brenhinol. Mae’n parhau i gefnogi RAF y Fali pan fo angen.

Mae ei gwaith ehangach yn yr Eglwys yng Nghymru wedi cynnwys gweinidogaeth gyda phlant a phobl ifanc, diogelu, galwedigaethau a Phwyllgor Taleithiol y Gymraeg.

Y tu allan i’w gweinidogaeth, mae Nia’n mwynhau teithio, tinkro â cheir clasurol, gwneud gwaith DIY a chefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae’n briod â Nigel ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion ac wyres.

Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: