English

Mae Andrew Robinson, offeiriad wedi ymddeol o'r Eglwys yng Nghymru, wedi ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ar ôl cyfaddef troseddau yn ymwneud â delweddau anweddus o blant.

Cyfaddefodd y troseddau canlynol:

  • 13 achos o feddiant/gwneud delweddau categori A o blant
  • 20 achos o feddiant/gwneud delweddau categori B o blant
  • 196 achos o feddiant/gwneud delweddau categori C o blant
  • 327 achos o feddiant/gwneud delweddau gwaharddedig o blant

Cafodd ddedfryd o 12 wythnos o garchar wedi'i gohirio am 2 flynedd. Mae hefyd yn destun gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 2 flynedd.

Ordeiniwyd Andrew Robinson yn 1995 a gwasanaethodd ei weinidogaeth gyfan yn esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Bu'n Offeiriad â Gofal Bywoliaeth Llanfeugan gyda Llanthetty gyda Llansantffraed-juxta-Wysg a Bywoliaeth Llanfrynach a Chantref gyda Llanhamlach cyn iddo ymddeol yn 2014. Roedd ganddo ganiatâd i weinyddu yn yr Esgobaeth o 2014 tan Ionawr 2024.

Pan ddaeth yr heddlu â'u hymchwiliad at sylw Tîm Diogelu'r Eglwys yng Nghymru ym mis Ionawr 2024, tynnwyd Caniatâd Andrew Robinson i Weinyddu yn ôl ar unwaith. Ar ôl i'r achos troseddol ddod i ben, bydd y mater yn cael ei gyfeirio at Dribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru, a fydd yn ystyried camau priodol pellach.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Mae'r rhain yn droseddau ffiaidd sy'n ecsbloetio ac yn hyrwyddo cam-drin plant yn rhywiol. Rydym yn condemnio'r ymddygiad hwn yn y termau cryfaf posibl ac rydym yn dal dioddefwyr y troseddau hyn yn ein gweddïau. Rydym yn ddiolchgar i'r heddlu ac i'n tîm diogelu am eu gwaith yn y mater hwn. Does dim lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru."

Rydym yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ofal ac amddiffyniad plant a phobl agored i niwed yn ein cymunedau. I'r perwyl hwn rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelu yn rheolaidd ac yn darparu hyfforddiant helaeth i staff a gwirfoddolwyr.

Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelu i gysylltu ag aelod o'n tîm drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru:

Fel arall, mae Safe Spaces yn wasanaeth cymorth annibynnol am ddim, sy'n darparu gofod cyfrinachol, personol a diogel i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin trwy eu perthynas ag Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru.

Gallwch gysylltu â'r tîm Mannau Diogel drwy: