English

Mae Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i roi diwedd ar y gyfundrefn dedfrydau IPP a etifeddwyd. Rydym yn cydnabod cyfrifoldeb y Llywodraeth i amddiffyn dioddefwyr a'r cyhoedd, ond credwn hefyd fod yn rhaid i gyfiawnder adael lle i adferiad, ailsefydliad a gobaith. Rydym yn annog Senedd y DU i sicrhau bod y ddeddfwriaeth arfaethedig yn darparu datrysiad teg i'r rhai sy'n parhau i fod ynghlwm wrth y gyfundrefn IPP flaenorol, gan gynnal mesurau diogelu cymesur er diogelwch y cyhoedd.

Meinc Esgobion Eglwys yng Nghymru

Y Parchedicaf Cherry Vann, Esgob Mynwy, Archesgob Cymru

Y Gwir Barchedig Gregory Cameron, Esgob Llanelwy

Y Gwir Barchedig John Lomas, Esgob Abertawe ac Aberhonddu

Y Gwir Barchedig Mary Stallard, Esgob Llandaf

Y Gwir Barchedig Dorrien Davies, Esgob Tyddewi