Drigain mlynedd yn ôl heddiw, dioddefodd pentref Aberfan drasiedi tu hwnt i ddychymyg.
Heddiw, wrth i ni goffáu'r diwrnod torcalonnus hwnnw, gweddïwn dros bobl y gymuned hon, sydd wedi arddangos, yn wyneb galar enbyd, y cadernid a’r gwytnwch mwyaf ysbrydoledig.
Wrth ystyried nifer y bywydau a gollwyd, a chynifer ohonynt yn blant ifanc, hawdd yw deall bod cwestiynau yn cael eu gofyn; nid lleiaf, y cwestiwn, 'Ble oedd Duw?'
Ond nid oes atebion hawdd. Ac efallai bod hyn yn arbennig o wir i bobl sy'n credu mewn Duw cariad a chyfiawnder.
Serch hynny, fe allwn, gyda llygaid ffydd, weld arwyddion o gariad a thosturi Duw yng ngweithredoedd pawb a fu ynglŷn â'r digwyddiad dirdynnol hwn:
yn arwriaeth y staff ysgol a roddodd eu bywydau er mwyn achub eu disgyblion ifanc
yn llafur diflino y gweithwyr achub
yn nhosturi’r rhai a wyliodd gyda'r galarwyr
yn ewyllys da y rheini, ymhell ac agos, a anfonodd gefnogaeth
yn nicter cyfiawn y rhai a geisiodd gyfiawnder
yng nghalonnau agored pawb, ar y pryd a thros y blynyddoedd, sydd wedi gweddïo, wylo a theimlo gyda phobl Aberfan.
Yn y gweithredoedd a’r ymatebion hyn, gallwn fentro awgrymu bod 'Duw yno'.
I'r rhai sydd â ffydd Gristnogol, fe gredwn ac fe ymddiriedwn fod Duw yn bresennol: yn dioddef gyda'r rhai a fu farw; yn galaru gyda'r rhai a gollodd; yn wylo gyda'r rhai sy’n wylo.
Rydym yn offrymu ein gweddïau dros bawb ledled Cymru a thu hwnt a gyffyrddir gan y digwyddiadau a gofiwn heddiw.
Boed i'r Duw sydd, yn Iesu Grist, yn croesawu plant, ac a roddodd ei fywyd dros eraill, ddod â chysur a bendith i bobl Aberfan ac i bawb sy'n parhau i alaru gyda nhw.



