English

Roedd yn achlysur arbennig yn Eglwys Sant Ioan, Sully, yn Ardal Weinidogaeth De Morgannwg pan gyflwynodd y Parchedig Lyndon Wobr Archesgob Cymru am Gerddoriaeth Eglwysig i'r aelod o'r côr Jane Powell.

Mae'r wobr, a roddir gan Archesgob Cymru, yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad rhagorol i gerddoriaeth ac addoliad eglwysig. Anrhydeddwyd Jane i gydnabod ei hymroddiad a'i gwasanaeth nodedig i fywyd cerddorol yr Eglwys.

Dechreuodd cysylltiad Jane â Sant Ioan pan ymunodd â'r côr yn saith oed. Ers hynny, mae hi wedi parhau i fod yn aelod ffyddlon a gwerthfawr, gan gyfrannu ei doniau a'i hymrwymiad i addoli dros nifer o ddegawdau.

Darllenwch y stori lawn ar wefan Esgobaeth Llandaf: