English

Canwyd clychau yn Eglwys y Santes Fair, Betws-y-Coed, am y tro cyntaf ar gyfer gwasanaeth ar Sul y Pasg, gan nodi cwblhau prosiect hirdymor i osod cylch llawn o glychau yn y tŵr.

Roedd mwy na 150 o bobl yn bresennol yn y Cymun Teuluol a bendith yr ŵyn, lle canwyd y clychau cyn y gwasanaeth. Mae’r prosiect yn cyflawni cynlluniau sy’n dyddio’n ôl dros 150 o flynyddoedd, pan adeiladwyd yr eglwys gyda darpariaeth ar gyfer cylch llawn o glychau.

Trosglwyddwyd wyth o’r clychau o Eglwys Sant Ioan ym Mhorthmadog ar ôl iddi gau, ynghyd ag adfer cloch wreiddiol yr eglwys o 1873.

Dywedodd y Parchedig Stuart Elliott fod y diwrnod yn nodi dathliad o’r Pasg yn ogystal â diweddglo blynyddoedd o waith.

“Gyda dros 150 o bobl wedi ymgasglu yn Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth arbennig, roedd Sul y Pasg 2026 ym Metws-y-Coed yn ddathliad hyfryd o wyrth y Pasg ac yn ganlyniad blynyddoedd lawer o gynllunio i ddod â chylch o glychau i’r eglwys.

“Lluniwyd y prosiect hwn gan lawer yn y gymuned ac ni fyddai wedi bod yn bosibl heb bobl leol wrth ei wraidd. Ariannwyd y prosiect gan unigolion a busnesau lleol ynghyd ag ymddiriedolaethau elusennol.

“Nid yn unig mae gan yr eglwys a’r gymuned bellach glychau i’w canu ar gyfer dathliadau, mae cyfleoedd hefyd i ddysgu’r grefft o ganu clychau ac i groesawu canwyr clychau sy’n ymweld yn y dyfodol.”

Gosodwyd y clychau yn dilyn prosiect a ddechreuodd yn 2019 ac a ariannwyd drwy gyfuniad o grantiau, rhoddion a chefnogaeth leol.

Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor: