Mae neuadd eglwys yn Llay i agor fel siop goffi dros dro, gan weini byns sinamon, cacennau a theisennau arddull Sweden.
Bydd Bara’r Nefoedd yn cael ei redeg o Neuadd Eglwys Sant Martin yng nghanol Llay a bydd ar agor bob bore Sadwrn (o 19 Medi), o 9am tan hanner dydd.
Mae'r adeilad wedi'i adnewyddu y tu mewn i gynnig awyrgylch caffi cyfoes i gwsmeriaid i gyd-fynd â'r fwydlen arddull 'fica'.
Mae’r trawsnewidiad wedi’i ysbrydoli gan Ficer Llay, y Parchedig Tracey Byrne, sydd wedi dewis y dodrefn â llaw ac wedi gweithio gydag aelodau’r gynulleidfa i greu’r gofod newydd. Dywedodd Tracey: “Daethom ar draws fika am y tro gyntaf pan deithiais i Sweden ar ysgoloriaeth deithio Ffermwyr Ifanc ddechrau’r 1980au. Roeddwn i wrth fy modd â’r syniad o gymryd amser allan o’r diwrnod i gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu wrth fwynhau coffi o ansawdd da a theisennau ffres.
“Bydd ein byns sinamon a’n peli siocled Sweden yn cael eu gwneud â llaw gan ddefnyddio cynhwysion lleol a masnach deg lle bynnag y bo modd, a byddwn hefyd yn cynnig cacennau, crwstiau a choffi masnach deg mwy traddodiadol.
“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pobl i’r caffi, a fydd yn cynnig rhywbeth gwahanol yn y gymuned leol.”
Bydd trawsnewid neuadd yr eglwys hefyd yn caniatáu i gynulleidfa Sant Martin gynnal digwyddiadau cymunedol yn ystod yr wythnos. Ar brynhawniau Mawrth, bydd Toastie Tuesdays yn cynnig lle ar ôl ysgol i rieni a phlant o flynyddoedd 1 i 4. Ar ôl y Nadolig, bydd clwb cinio rheolaidd yn dechrau, ynghyd â chaffi Dementia a Chaffi Galar. Bydd nosweithiau Bingo yn parhau bob wythnos yn yr eglwys.
Ychwanegodd Tracey: “Mae Ysgol Sant Martin wedi elwa o nifer o grantiau sydd wedi galluogi’r gwaith adnewyddu hwn o’r neuadd. Gyda’r adfywiad newydd hwn, rydym yn gobeithio y bydd y neuadd yn helpu ac yn cefnogi mwy o bobl yn y gymuned leol.”
Bydd gwirfoddolwyr lleol yn gweithio ym Mhara’r Nefoedd . Bydd ar agor bob dydd Sadwrn o ddydd Sadwrn 19 Medi rhwng 9am a 12pm.
Mae Eglwys Sant Martin yn rhan o Ardal Genhadaeth Alyn, un o'r 20 Ardal Genhadaeth sy'n ffurfio Esgobaeth Llanelwy o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llanelwy:



