Bydd Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor yn cynnal Gwasanaeth Diolchgarwch Cenedlaethol ar gyfer Diwrnod Windrush ddydd Sul 22 Mehefin yn ystod yr Offeren Gorawl am 3.30yh.
Bydd y gwasanaeth yn cynnwys cerddoriaeth a darlleniadau sy'n adlewyrchu etifeddiaeth dinasyddion Caribiaidd a'r Gymanwlad a ddaeth i'r DU. Gweithiodd llawer mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ar ôl cyrraedd fel rhan o Genhedlaeth Windrush.
Bydd David Morris, Esgob Enlli ac Esgob Cynorthwyol Bangor, yn llywyddu'r gwasanaeth.
Ar ôl y gwasanaeth yn y Gaderilan, bydd bwffe Jamaicaidd yn Neuadd Penrhyn, a weinyddir gan Gymdeithas Jamaica Gogledd Cymru.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhoi cyflwyniad yn y digwyddiad. Mae'r gwasanaeth yn codi arian er mwyn anfon injan dân wedi'i hailadeiladu ac offer brys hanfodol i Blwyf Clarendon yn Jamaica, ardal fynyddig sydd â chysylltiadau hanesyddol â phlanhigfeydd teulu Pennant.
Mae'r trefnwyr yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn dod yn rhan reolaidd o ddathliadau cenedlaethol Windrush.
Croeso cynnes i bawb.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:



