Gŵyl newydd i ddathlu llwybr pererindod Ynys Môn

Bydd gŵyl newydd sy’n dathlu llwybr pererindod Cybi a Seiriol ar Ynys Môn yn cael ei chynnal yr haf hwn, gyda theithiau cerdded, sgyrsiau, cerddoriaeth a digwyddiadau treftadaeth mewn eglwysi ledled yr ynys.
Wedi’i threfnu gan Esgobaeth Bangor, cynhelir Gŵyl Cybi a Seiriol rhwng 3 a 5 Gorffennaf. Hon yw’r ŵyl gyntaf i ganolbwyntio ar Lwybr Cybi a Seiriol, llwybr pererindod 57 milltir sydd wedi’i ysbrydoli gan hanes y seintiau o’r chweched ganrif, Cybi a Seiriol.
Mae rhaglen yr ŵyl yn cynnwys teithiau pererindod dan arweiniad, datganiad sielo ym Mhenmon, sgyrsiau ar hanes lleol a thirweddau cysegredig, perfformiad sy’n archwilio llongddrylliad y Royal Charter, a gwasanaeth pererindod a bendith ym Mhenmon.
Wedi’i ysbrydoli gan hanes y seintiau o’r chweched ganrif, Cybi a Seiriol, mae’r llwybr pererindod yn ymestyn o Gaergybi i Benmon ac yn mynd heibio rhai o dirnodau crefyddol, hanesyddol a naturiol pwysicaf Ynys Môn. Yn ôl traddodiad, sefydlodd Cybi a Seiriol gymunedau crefyddol ar ddau ben yr ynys. Ymsefydlodd Cybi yng Nghaergybi, tra sefydlodd Seiriol fynachlog ym Mhenmon. Dywed y chwedl fod y ddau sant yn cyfarfod yn rheolaidd ger canol yr ynys i weddïo ac i rannu cymdeithas.
Ymhlith uchafbwyntiau’r llwybr mae Eglwys Sant Cybi o fewn y gaer Rufeinig yng Nghaergybi, yr arfordir o amgylch Rhoscolyn a Ffynnon Gwenfaen, Melin Llynon, sef melin wynt weithredol olaf Cymru, Siambr Gladdu Lligwy sy’n 5,000 o flynyddoedd oed, Cofeb llongddrylliad y Royal Charter ger Moelfre, Caer Oes Haearn Bwrdd Arthur, Ffynnon Seiriol Sant a Phriordy Penmon.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Bangor:
Esgobaeth Bangor - Y Newyddion Diweddaraf