Cornel Cofio Plant Newydd ym Mynwent Eglwys y Waun

Mae ardal arbennig o'r fynwent yn y Waun wedi'i neilltuo i blant gofio teulu, ffrindiau ac anifeiliaid anwes sydd wedi marw.
Cysegrodd y Parchg Matt Wilkinson, Ficer Eglwys y Santes Fair, yr ardal y tu ôl i'r eglwys a gwahoddodd blant o Ysgol Y Waun i gymryd rhan yn y gwasanaeth bendith.
Mae arwydd arbennig, wedi'i ddylunio a'i baentio gan Jill Blanchard, artist a Phennaeth AG yn Ysgol Moreton Hall, wedi'i osod ar y rheiliau o amgylch yr ardd. Mae'r Gornel Gofio Plant yn union y tu ôl i'r eglwys ac mae wedi'i thacluso gyda phlanhigion wedi'u gosod, a lle i blant adael negeseuon i anwyliaid ac anifeiliaid anwes.
Dywedodd y Parchg Matt Wilkinson: "Daeth y syniad ar gyfer yr Ardd Goffa gan yr Arglwyddes Trefor a oedd eisiau gweld yr ardal hon yn cael ei thrawsnewid yn lle heddychlon a hapus i blant ymweld â hi a gadael eu negeseuon eu hunain i aelodau o'r teulu ac anifeiliaid anwes.
"Mor aml mae plant yn mynd gyda'u rhieni i fynwentydd, ac mae'r gornel hon yn lle i blant gofio gyda chynhesrwydd a llawenydd ac efallai i gymryd rhan yn ysgafn yn y broses o alar.
"Mae creu'r gornel hon yn ymdrech gymunedol go iawn ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu."
Mae gan Eglwys y Santes Fair yn y Waun, sydd ynghanol y pentref, fynwent fawr sy'n derbyn gofal gan dîm ymroddedig o wirfoddolwyr sy'n cyfarfod bob prynhawn Gwener i dorri'r glaswellt a'i dacluso. Mae eu gwaith caled wedi arwain at wobrau gan RHS Cymru yn ei Blodau a Cadwch Gymru'n Daclus.
Mae Eglwys y Santes Fair yn rhan o Ardal Genhadol Offa, grŵp o eglwysi o amgylch y Waun, Rhiwabon, Johnstown a'r ardaloedd cyfagos, sy'n gweithio gyda'i gilydd i wasanaethu eu cymunedau lleol yn well. Mae Ardal Genhadol Offa yn un o 20 Ardal Genhadol yn Esgobaeth Llanelwy, sy'n rhan o'r Eglwys yng Nghymru.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Llanelwy:
Esgobaeth Llanelwy - Y Newyddion Diweddaraf